Annwyl rieni / warcheidwaid, staff a disgyblion,

Mae`n wythnos Mabolgampau i`r plant ond rydyn ni`n ddibynnol ar y tywydd. Bydd angen i`r disgyblion i wisgo dillad ymarfer corff pob dydd.

Diogelwch yr Haul:

1.                   Gyda'r tywydd poeth daw'r risg o losgi haul felly os gwelwch yn dda sicrhewch fod eich plentyn yn gwisgo digon o eli haul cyn iddo gyrraedd yr ysgol a bod potel yn ei fag i ailymchwyddo os oes angen. (Os oes gan eich plentyn alergedd i fathau penodol o eli haul, rhowch wybod i'r ysgol).

2.                   Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn dod â het i'w hamddiffyn rhag yr haul.

Hysbyseb o Gastell Aberteifi / gweler atodiadau hefyd:

Dyddiad: 9fed o Orffennaf         

Lleoliad: Castell Aberteifi

Tocynnau: £12 yr un (byrddiau ar gyfer 2, 4 a 6 person ar gael)

Tocynnau ar gael yma: https://www.cardigancastle.com/whats-on/

Gatiau yn agor am 5:30 yr hwyr, sioe am 8

Bwyd a diod ar gael i archebu ar y noson o Fwyty 1176.

Bwydlen am wythnos 5.7.21:

Dydd Llun

Pasta pob cyw iâr

Cacen fach ‘Het silc’

 

Dydd Mawrth

Pysgod tatw ffa pob

Crwmbl a chwstard

 

Dydd Mercher

Cinio porc rhost

Myffin a llaeth

Dydd Iau

Bolognes Cartref

Bisged a sudd

 

Dydd Gwener

   Cwn poeth sglodion

   Yogwrt gyda darnau ffrwyth

Symptomau – dylai unrhyw un sydd â symptomau Covid-19 aros gartref ar unwaith, archebu prawf a    hysbysu’r ysgol. Mae angen i’r aelwyd gyfan hunanynysu nes bod canlyniad y prawf yn hysbys.

Mae’r symptomau’n cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholled neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas. Gall fod symptomau eraill yn gynnar, fel cur pen, blinder ac gwinegon cyffredinol a phoenau sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn holi i bobl sydd â symptomau ehangach Covid-19 i fynd am brawf.

Mae’r symptomau ehangach hynny’n cynnwys:

  • symptomau ysgafn fel annwyd yr haf – gan gynnwys gwddf tost, trwyn yn rhedeg, pen tost
  • symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys mya;gia (poenau yn y cyhyrau); blinder llethol; pen tost cyson; trwyn llawn neu’n rhedeg; tisian cyson; gwddef tost a/neu crygni yn y gwddwf, byr o wynt neu gwichian
  • teimlo’n gyffredinol yn anhwylus a bod hanes o fod mewn cyswllt gydag achos positif o Covid-19
  • Symptomau newydd neu sy’n newid yn dilyn prawf negyddol blaenorol

Mae gwefan Hywel Dda wedi diweddaru eu gwybodaeth ar y ddolen:

Annog pobl â symptomau ehangach i archebu prawf COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

 

Cofion

 

M. Lewis

Pennaeth