- Covid-19 – Achosion positif o covid-19 - ni ddylai disgyblion sydd â symptomau covid-19 fynychu’r ysgol. Mi fydd angen parhau i hunan ynysu am 5 diwrnod a chael 2 brawf LFD negyddol cyn dychwelyd.
Dydd Llun |
Pitsa, sglodion, llysiau, salsa Myffin siocled a llaeth |
Dydd Mawrth |
Bysedd pysgod tatw ffa pob llysiau Eirinen wlanog melba |
Dydd Mercher |
Cinio cyw iâr Cacen siocled crenshlyd Sudd |
*Dydd Iau |
Bwffe - Dewis o frechdanau, selsig, pizza, llysiau Myffin siocled, jeli a hufen iâ. *A all plant sydd fel arfer yn cael pecyn bwyd ond a hoffai'r bwffe roi gwybod i'r ysgol erbyn dydd Mawrth os gwelwch yn dda |
Dydd Gwener |
Peli cig, Pasta bara garlleg llysiau Sgonen afal a chwstard |
- Nofio – bydd Meithrin llawn amser a Derbyn (Dosbarth y Ffrydiau Mrs Howells a Dosbarth y Gorlan Miss Waters) yn nofio wythnos yma.
- Diwrnod Hwyl i flwyddyn 5 yn Ysgol Uwchradd Aberteifi – 12.7.22wedi`i ganslo
- Eisteddfod Genedlaethol - Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Geredigion o 30 Gorffennaf - 6 Awst, ac mae’r ŵyl yn awyddus i gymaint o blant cynradd â phosibl gael profi un o wyliau mwya’r byd gyda’u teuluoedd, a dod i chwarae a mwynhau yn y Pentref Plant. Mae tocynnau ar gael ar gyfer grwpiau penodol drwy gronfa Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru, er mwyn i deuluoedd cymwys ymweld â’r Eisteddfod yn rhad ac am ddim.
Mae cofrestru am docynnau yn hawdd. Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn anfon dolen a chyfrinair arbennig atoch os ydych chi’n gymwys, er mwyn i chi archebu eich tocynnau am ddim. Gallwch ddewis diwrnod i fynd i fwynhau'r Eisteddfod, ond noder ni fyddwn yn gallu darparu cludiant i Dregaron.
https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=Ug4_TzS3ZEGUCRtgHRR5k3MLGECnr-NNrDdHlpJqSFhUM1RDOE1GVTNHQlMxUENIQUtLSUVQOUNGUS4u
- CRhA - Mae'r CRhA yn falch iawn o gyhoeddi bod Ffair Haf wedi codi cyfanswm o £636.30 a hoffai ddiolch i bawb a helpodd ac a gefnogodd y digwyddiad codi arian, boed hynny drwy gyfrannu, gwirfoddoli neu gymryd rhan yn y dydd i helpu i godi arian i'n plant. Roedd yn wych gweld llawer o bobl yn mwynhau eu hunain ac yn cael hwyl a hyd yn oed yn fwy anhygoel i weld beth allwn gyflawni pan fyddwn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd. Felly diolch ac edrychwn ymlaen at fwy o ddigwyddiadau hwyliog y flwyddyn nesaf.
- Trip ar gyfer dosbarthiadau blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 / Miss Williams a Mrs Hughes ar y 13eg o Orffennaf.
- Noson Bant a Chi Blwyddyn 6 ar 14eg o Orffennaf.
- Gwyliau’r Haf – mi fydd yr ysgol yn cau am 3:30yp ar ddydd Gwener, Gorffennaf 15fed.
- Neges o Reolwr Rygbi - Annwyl Riant/Gofalwr,
“Rydym yn cynnal cyfres o Wersylloedd Rygbi/Chwaraeon sy’n rhad ac am ddim yn ystod gwyliau’r haf. Os oes gennych ddiddordeb, yna cliciwch ar y ddolen yn y llythyr. Bydd yr un cyfle yn cael ei ryddhau trwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol o 12 Gorffennaf. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Ceredigion Summer WRU Camps
Mae'r Gwersylloedd ar gyfer bechgyn a merched ac nid oes angen unrhyw brofiad rygbi. Bydd cymysgedd o weithgareddau yn enwedig yn y prynhawniau pan fyddwn yn cael ein cefnogi gan adrannau chwaraeon yr awdurdodau lleol. Bydd yr holl staff yn hyfforddwyr cymwysedig a bydd ganddynt dystysgrif DBS. Mae'r diwrnod yn dechrau am 10yb yn y lleoliad a fydd brecwast ar gael rhwng 10 a 10.30yb. Bydd gweithgareddau bore wedyn yn cael eu cynnal y tu allan ac yna cinio am 12.30yp. Bydd y plant yn dychwelyd y tu allan rhwng 1yp a 2yp. Yna bydd y Gwersyll yn gorffen am 2yp.
Os hoffech ragor o wybodaeth e-bostiwch fi ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.neu ffoniwch 07740612791.
David Arthur, Rheolwr Rygbi URC Rhanbarth y Scarlets.”
Cofion cynnes,
M. Lewis