Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Cystadleuaeth Poster i gadw ein Sir yn lân
Gofynnir i bobl ifanc Ceredigion helpu i annog pawb i ofalu am ein hamgylchedd.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cadwch Gymru’n Daclus i annog pawb i ofalu am ein Sir a mynd â’u sbwriel adref. Er mwyn helpu i ledaenu’r neges, mae Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i blant oed ysgol gynradd ddylunio poster.
Yn y poster, dangoswch sut mae sbwriel yn effeithio arnoch chi, eich amgylchedd a’r bywyd gwyllt, gydag un o’r negeseuon allweddol hyn:
o ‘Ewch â’ch sbwriel adref i’w ailgylchu’
o ‘Os yw’r bin yn llawn, ewch â’ch sbwriel adref’
o ‘Creu straeon, nid sbwriel’
Mae’r gystadleuaeth yn agored i blant blynyddoedd ysgol 1-3 a 4-6. Bydd yr enillwyr o'r ddau grŵp oedran yn derbyn pecyn codi sbwriel iddyn nhw a'u teulu a phecyn gweithgaredd eco, gyda phob ysgol sy'n cymryd rhan hefyd yn derbyn llyfr am ddim.
Bydd y posteri yn cael eu defnyddio gan Gyngor Sir Ceredigion i hysbysebu’r canolfannau codi sbwriel a fydd ar gael yn fuan ar draws Ceredigion, lle gall pobl fenthyg citiau codi sbwriel.
I gystadlu, gofynnwch i riant neu warcheidwad e-bostio’r poster i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.. Cofiwch gynnwys eich enw, enw eich ysgol, a'ch blwyddyn ysgol yn yr e-bost.
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw Dydd Gwener 8fed Ebrill am 4:30pm.
Cyswllt - Ceri Jones
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Cydlynydd Adnoddau Naturiol a Llesiant/ Natural Resources and Well-being Co-ordinator
- Gwyliau’r Pasg – mi fydd yr ysgol yn cau ar gyfer gwyliau’r Pasg ar ddydd Gwener, Ebrill 8fed ac yn ail agor ar ddydd Llun, Ebrill 25ain. Fe fydd hyfforddiant mewn swydd ar ddydd Gwener 6ed o Fai ac bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion.
- Blwyddyn 6 trafnidiaeth - Er mwyn gwneud cais am gludiant ysgol i`r Ysgol Uwchradd, llenwch y ffurflen gludiant ganlynol -https://forms.office.com/r/Uv6fijbw7h?lang=cy-GB erbyn y 08/04/2022. Os oes gennych unrhyw ymholiad neu anhawster, cysylltwch â'r Uned Cludiant Corfforaethol ar 01545 570 881 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
- Cynigir clwb ar ôl ysgol rhwng 3.30 a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau am £8 y diwrnod.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 21.3.22 |
|
Dydd Llun |
Stroganoff cyw iâr llysiau reis Ffrwythau ac hufen ia |
Dydd Mawrth |
Pysgod Ffa Pob Tatw Cacen a Saws gwyn |
Dydd Mercher |
Cinio rhost porc Sgonen afal a chwstard |
Dydd Iau |
Spagetti bolognes Bisgedi ceirch a llaeth |
Dydd Gwener |
Byrgyr biff sglodion Ffa pob Iogwrt a ffrwyth |
Cofion cynnes,
M. Lewis
Pennaeth