Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Llongyfarchiadau mawr i Miss Lowri Waters ar enedigaeth ei ferch fach. Dymunwn y gorau iddynt.
- Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth a`ch cyfraniadau i Blant Mewn Angen. Casglwyd £1200 sydd yn swm anhygoel ac yn dal i gasglu!
- Ydych chi wedi ymaelodi eich plentyn / plant gyda’r Urdd?
Mae 2022 yn argoeli i fod yn flwyddyn brysur a chyffrous yn hanes yr Urdd wrth ddathlu canmlwyddiant.
Bydd manylion Eisteddfod yr Urdd 2022 yn cael ei cyhoeddi’n fuan iawn ynghyd a mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau chwaraeon a chymunedol.
Sut i ymaelodi?
Mae 3 ffordd wahanol o ymaelodi:
fel unigolyn/person ifanc
rhiant (ar ran y plentyn)
arweinydd cangen (ar ran y plentyn).
Ewch i www.urdd.cymru/ymuno a chreu cyfrif yn Y Porth i ymaelodi eich plentyn.
Cynnig arbennig! Eleni, mae`r Urdd yn cynnig aelodaeth am £1 i ddisgyblion sy’n derbyn cefnogaeth drwy gynllun prydau ysgol am ddim. Cofrestrwch i sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn yng Nghymru.
Dydd Llun
Tica cyw iar Reis Bara Naan llysiau
Hufen Ia a ffrwythau cymysg
Dydd Mawrth
Pysgod, tatw, pys, llysiau
Cacen siocled saws gwyn
Dydd Mercher
Cinio porc
Sgonen afal a chwstard
Dydd Iau
Bologen sbageti bara garlleg llysiau
Cwci ceirch Llaeth
Dydd Gwener
Byrgyr biff sglodion ffa pob llysiau
Iogwrt
- Cinio Nadolig ar ddydd Iau, 9fed o Ragfyr.
Cofion cynnes,
Miss M. Lewis
Pennaeth