Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

Mae llau pen ymysg plant yn yr ysgol. A wnewch chi edrych yng ngwallt eich plentyn i weld os oes llau yno? Byddai edrych yn wythnosol yn help i leihau’r broblem.

CYNGOR:

Llau pen 

Ewch drwy walltiau'ch plant yn rheolaidd. Y ffordd hawddaf yw drwy gribo'r gwallt yn ofalus dros bapur gwyn, gan edrych am blisg wyau gwag y llau neu'r nedd fel y maent yn cael eu galw. Mae'r llau eu hunain yn anoddach i'w gweld - pryfed brown neu lwyd heb adenydd, prin gymaint â phen matsien, sy'n llechu wrth wraidd y gwallt.

Os oes gan eich plentyn lau pen:

  • peidiwch â chynhyrfu. Nid yw llau pen yn lledaenu afiechydon nac yn achosi unrhyw fygythiad difrifol i iechyd. Yn aml iawn nid ydynt yn gwneud i chi gosi hyd yn oed. 
  • peidiwch â beio'ch hun. Nid yw llau pen yn symptom o wallt budr. Er eu holl ffaeleddau, maent yn greaduriaid bach digon democrataidd, nad ydynt yn gwahaniaethu rhwng gwallt glân neu fudr, nac yn poeni am ei liw neu ei hyd. Nid ydynt yn gwahaniaethu ychwaith ar sail dosbarth, hil, rhyw nac oedran hyd yn oed. Yr unig reswm pam bod disgyblion ysgolion cynradd mor agored iddynt yw eu bod yn fwy cymdeithasol na'r gweddill ohonom. Maent yn llythrennol yn dod â'u pennau at ei gilydd yn amlach, gan roi cyfle i'r llau symud o un pen i'r llall.
  • peidiwch â phoeni. All y pediculus humanus capitis ddim cystadlu yn erbyn rhiant sy'n gwneud rhywbeth ar unwaith ac sy'n benderfynol o gael gwared ohonynt.

Beth i'w wneud: 

Mae dwy strategaeth sylfaenol - mae'n debyg y byddai cyfuniad o'r ddwy yn synhwyrol:

  • Golchwch wallt eich plentyn gydag un o'r siampws lladd llau sydd ar gael mewn unrhyw fferyllfa dda
  • Ewch ar helfa llau. Defnyddiwch ddigon o hylif cyflyru (sy'n arafu'r llau) a chribwch y gwallt o'r gwreiddyn i'r pen gyda chrib mân ar gyfer llau (cewch brynu un yn y fferyllfa). Gwasgwch unrhyw wyau/llau a welwch. Gwnewch hyn bob dau neu dri diwrnod hyd nes y bydd y broblem wedi ei datrys.

Hoffwn i hefyd eich cyfeirio at wefan NHS Direct ar gyfer gwybodaeth yn ymwneud â materion iechyd cyffredinol a gwybodaeth am lai pen ac ati. www.nhs.uk

 

https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/h/article/headlice#Treatment

https://www.nhs.uk/conditions/head-lice-and-nits/

Diolch am eich cydweithrediad!

 

Bwydlen am yr wythnos:

Dydd Llun

Pastisio

Cwci

Dydd Mawrth

Pysgod

Pwdin Efa a chwstard

Dydd Mercher

Cinio selsig

Pwdin reis

Dydd Iau

Pei cig eidion

Cacen siocled creislyd

Dydd Gwener

Pitsa sglodion

Salad ffrwythau