Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

  • Neges i Flwyddyn 6: 
    Gan bod eich plentyn fod dechrau addysg uwchradd ym Medi 2023, bydd angen i chi wneud cais am le mewn ysgol erbyn 20 Rhagfyr 2022.
    Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion trwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: Derbyniadau Ysgol.
    Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion, yna gallwch ymweld â’u gwefannau:AberaeronAberteifi , Bro PedrBro TeifiHenry RichardPenglais a Penweddig.
    Os ydych chi'n penderfynu gwneud cais i ysgol mewn sir arall yna gwnewch gais i'r Sir honno.
    Sicrhewch eich bod wedi cwblhau'ch cais erbyn 20 Rhagfyr 2022.  Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried yn rhai hwyr ac efallai y bydd hyn yn cael effaith ar p’un ai ydych yn cael lle yn yr ysgol o'ch dewis. Noder y byddwch ond yn cael lle yn yr ysgol o’ch dewis os oes lleoedd ar gael yn yr ysgol honno.
    Mae rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau derbyn a'r rheoliadau i'w gweld yma: Gwybodaeth i Rieni. Os hoffech gael copi papur yna cysylltwch â’r Swyddog Derbyniadau (manylion isod).


TRAFNIDIAETH YSGOL

Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i ddisgyblion sy'n cael eu derbyn i ysgol o ganlyniad i rieni yn penderfynu dewis ysgol nad yw'r ysgol addas agosaf.  Fe'ch cynghorir i ystyried y goblygiadau trafnidiaeth cyn penderfynu ar eich dewis o ysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am Gludiant Ysgol, gan gynnwys y ffurflen gais, ar gael yma: Cludiant Ysgol. Noder mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau trafnidiaeth yw 20 Rhagfyr 2022.

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Derbyniadau Ysgol os bydd angen cymorth pellach arnoch. Gweler y manylion cyswllt isod.

Cheryl Evans. 

Swyddog Derbyniadau Ysgol/School Admission Officer

Gwasanaeth Ysgolion/Schools Service

Cyngor Sir Ceredigion County Council, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn,

Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE

    • Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
    • 01545 570881
  • Blwyddyn 3 a 4: Am fod Cwpan Y Byd Pêl Droed FIFA yn agosau, mae Ceredigion Actif gŵyl ar thema Cwpan Y Byd ar Ddydd Llun yr 21ain o Dachwedd ar yr Astro yn Canolfan Hamdden Aberteifi. Bydd yr ŵyl ar gyfer plant blynyddoedd 3 a 4 (Dosbarth Miss Williams) ac yn rhedeg o 1yp-3yp.

Bydd Actif Ceredigion yn cynnwys sgiliau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â phêl-droed (driblo, saethu, sgiliau cadw'r bêl fynnu a gemau bach) yn ogystal â chwaraeon a gemau traddodiadol eraill i ategu'r diwrnod. Mae gwahoddiad i`r llysgenhadon hefyd a dylai Llysgenhadon Efydd wisgo eu crysau polo du swyddogol ar y diwrnod.

Cost y bws yw £4 os gwelwch yn dda.

 

  • Codi arian i Blant Mewn Angen a`r Ysgol – gwahoddir i’r plant i ddod i’r ysgol heb wisg ysgol neu byjamas ar y 18fed o Dachwedd a dod a rhodd; bydd hanner yr arian codwyd yn mynd tuag Plant Mewn Angen a hanner i’r ysgol.
  • Dyddiad gwyliau Nadolig: 22.12.22 – 9.1.23 Bydd ysgol yn cau ar 21.12.22 ac
  • Nofio – dosbarth Miss Harris / Y Bont (bl 1 a 2) yn mynd i nofio ar ddydd Iau. Mae angen cyfraniad o £10 os gwelwch yn dda.

Bwydlen am ginio am yr wythnos 14.11.22

Dydd Llun

Pastisho, bara garlleg, llysiau,

Cwci siocled a llaeth

Dydd Mawrth

 Pysgod, Tatw, llysiau, ffa pob,

Cacen a chwstard

Dydd Mercher

Cinio selsig

Ffrwyth mewn jeli

Dydd Iau

Cyw iâr melys a sur, reis, Bara Naan, llysiau

Myffin a Sudd

Dydd Gwener

Pitsa Sglodion llysiau

Pwdin cwli

Cofion cynnes,

M. Lewis 

Pennaeth