Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

Trefniadau Covid i gadarnhau:

Mae profion Covid bellach i’w defnyddio os oes symptomau gan yr unigolyn, ac nid profi’n gyson. Felly ni ddylid cynnal prawf Covid os nad ydy’r unigolion yn dioddef symptomau.

Nid fydd yr Ysgol yn llythyru ‘Warn and Inform’ pan mae achosion Covid yn yr ysgol. Serch hyn, os ydyn ni’n gweld patrwm uchel mewn ambell ddosbarth, byddwn ystyried danfon nodyn gwybodaeth atoch.

Mae’r cyngor cenedlaethol ar  hunan ynysu yn parhau i nodi y dylid hunan ynysu am 5 diwrnod. Nid oes angen cynnal 2 brawf negyddol cyn dychwelyd i’r ysgol ond mae angen i bawb fod yn rhydd o wres i ddychwelyd i’r ysgol.

  1. Sioe Siani Sionc - Ar y 3ydd o Hydref gwahoddir dosbarth Mrs Howells, dosbarth Miss Waters, Blwyddyn 1 a 2 dosbarth Miss Harris  i fynd ar daith i weld Sioe Siani Sionc yn Llangrannog am £5.
  1. Ymarfer corff – i bawb ar bob dydd Mawrth.
  2. Nofio – dosbarth Miss Waters / Y Gorlan (derbyn) yn dechrau ar ddydd Iau; am gyfraniad o £10 os gwelwch yn amy 6 wythnos.
  3. Bikes / Scooters – gall plant ddod a`i sgwter / feic ar y diwrnod sydd wedi cael ei neilltuo:

Dydd Mawrth  – dosbarth Miss Waters Y Gorlan

Dydd Mercher – dosbarth Miss Harris Y Bont

Dydd Iau  – dosbarth Miss Williams Y Ffynnon

Dydd Gwener  – Mrs Hughes` class Y Berllan

 

Bwydlen am ginio am yr wythnos 19.09.22

Dydd Llun

Gŵyl y Banc

Dydd Mawrth

Caserol biff, pwdin Sir Efrog, tatw llysiau

Cacen het Slic

Dydd Mercher

Cinio rhost porc

Myffin a llaeth

Dydd Iau

 Bolognes sbageti bara garlleg llysiau

Cwci siocled Sudd

Dydd Gwener

Byrgyr Sglodion Salad

Iogwrt

 

         5. Nodyn atgoffa - Gwersyll Yr Urdd Llangrannog – Blwyddyn 5 a 6 (Dosbarth Mrs Hughes)

          Gofynnwn yn garedig i chwi anfon blaendal o £30 I’R YSGOL gyda’r bonyn amgaeedig ERBYN 3ydd o Hydref 2022.

        

6.   BETH AM DDOD YN AELOD O URDD GOBAITH CYMRU?

LlunLlythyr19 9 2022  LlunLlythyr19 9 20221

Sut i Ymaelodi?      Dilynwch y linc  Ymuno | Urdd Gobaith Cymru                        

Os ydych wedi ymaelodi llynedd mae’r broses adnewyddu yn syml! Cer i mewn i’r Porth, gwiriwch eich manylion ac yna ewch ymlaen a chliciwch ‘Adnewyddu Aelodaeth’ ger enw’r aelod dan sylw ac yna ymlaen i dalu.

Os ydych yn ymaelodi am y tro cyntaf, bydd angen i chi greu proffil o fewn Y Porth er mwyn cychwyn y broses. Wedi hynny ychwanegwch manylion yr aelod ac yna ymlaen i dalu.

Ar ôl ychwanegu a thalu bydd eich plant yn aelodau o’r Urdd a gelli ddychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio manylion a dros y misoedd nesaf bydd holl weithgareddau a chystadlaethau’r Urdd yn symud i’r Porth, hefyd. 

 

LlunLlythyr19 9 20222 Unwaith y byddwch wedi ymaelodi bydd bathodyn aelodaeth yn cael ei anfon at yr aelod. Ni fydd cardiau aelodaeth eleni.

 

     7. Clwb Cwtsh - Mae #ClwbCwtsh yn gwrs blasu Cymraeg rhad ac am ddim dros 8 wythnos sydd wedi’i anelu at ddysgwyr cwbl newydd ac sy’n canolbwyntio ar iaith magu plant yn y cartref. Rydym yn parhau i ddarparu cyrsiau rhithiol er mwyn sicrhau nad yw mynediad yn rwystr i bobl ymuno, ond erbyn hyn mae cyrsiau wyneb yn wyneb hefyd ar gael, yn dibynnu ar ardal.

Bydd union fanylion am leoliadau a dyddiadau’n cael eu rhannu dros y cyfryngau cymdeithasol, ac ar ein gwefan: www.meithrin.cymru/clwb-cwtsh, ond mae’r cwrs nesaf  yn cychwyn ar y y 19eg o Fedi 2022.

 

LlunLlythyr19 9 20223

 

Cofion cynnes,

M. Lewis