Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion, 

 

Byddaf fel Pennaeth yn Ysgol Gynradd Cenarth yn gadael ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon.

Mae wedi bod yn fraint cael arwain ysgol Cenarth a byddaf yn gweld eisiau gweithio gyda'r staff a'r plant.

Rwyf wedi mwynhau dod i'r gwaith bob dydd a does 'na ddim diwrnod wedi mynd heibio pan dwi ddim yn cael gweld doniau, sgiliau a brwdfrydedd y plant mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. 

 

Mae gwylio pobl ifanc yn tyfu ac yn datblygu, gan gyflawni eu potensial, gan anelu am eu huchelgeisiau, a dod yn oedolion ifanc cyfrifol a dinasyddion sy'n gyrru pob athro.

Bu'n bleser cael bod ar daith gyffrous; taith sydd wedi gweld yr ysgol yn mynd trwy lawer o newidiadau, heriau a hyd yn oed wedyn, o nerth i nerth. Mae staff, rhieni a phlant yn rhan fawr o ethos y tîm a diolch i'r gefnogaeth barhaus gennych chi ac i`n Corff Llywodraethol ymroddedig.

 

Hoffwn eich sicrhau y byddaf yn gweithio'n ddiwyd ochr yn ochr â chi, â'n Llywodraethwyr, yr awdurdod lleol a'n holl staff i sicrhau'r newid effeithiol ar gyfer yr arweinyddiaeth i`r pennaeth nesaf. Serch hynny o hyn hyd at ddiwedd y tymor mae'n fusnes fel arfer a'r plant yw ein blaenoriaeth.

 

 

  • PROSIECT OPERA ABC Blwyddyn 5 a 6: Mae’r Gwasanaeth Cerdd yn cydweithio gyda chwmni ABC of Opera i ddod i wneud gweithdai i flynyddoedd 5 a 6. Mae’n brosiect sy’n cynnwys y chwe elfen a’r pedwar diben o’r cwricwlwm newydd; yn adeiladu cymeriad, dathlu gwahaniaeth ac yn annog creadigrwydd i’m pobl ifanc i gredu  ‘Amdani Blant Cymru’.

Cyfle da i blant ifanc Ceredigion i ddatblygu eu hyder, troi rhywbeth fel cerddoriaeth glasurol sydd weithiau yn cael ei hystyried yn hen ffasiwn, mewn i rywbeth llawn hwyl a chymysgu digwyddiadau bob dydd ysgolion a bywyd tu fas i’r ysgol. 

 Gwahoddir i`r plant blwyddyn 5 a 6 i ddod i`r weithdy cyntaf ar ddydd Gwener 28.4.23 i Aberporth. Bydd eisiau pecyn bwyd, gwisg ysgol, a chost y bws i bob disgybl yw £4.  Bydd y bws yn casglu`r plant am  8.45yb ac yn dychwelyd erbyn 3.00yp.

 

 

                     Bwydlen am wythnos 24.4.23

Dydd Llun

Pitsa, tatw, salsa, llysiau

Myffin siocled a llaeth

Dydd Mawrth

Peli cig, saws tomato, pasta, llysiau

Sgon afal a chwstard

Dydd Mercher

Cinio cyw iar

Cacen siocled crenshlyd, sudd

Dydd Iau

Bysedd pysgod, tatw, ffa pob, llysiau

Melba eirin gwlanog

Dydd Gwener

Cyw iar wedi`i lapio, sglodion, salad, moron

Jeli ffrwythau a mws

NOFIO TYMOR YMA: Dyddiadau a dosbarthiadau am nofio:

Dyddiad / Date:

Dosbarth Meithrin llawn amser ac y Derbyn

 

Dyddiad / Date:

Dosbarth y Ffynnon Miss Williams Bl 3 a 4 

20.4.23

Meithrin Llawn amser / Y Gorlan (wedi` i ohirio am fod salwch gyda staff yn y pwll nofio)

   
 

                                                                                                   

27.3.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

4.5.23

Meithrin Llawn amser / Y Gorlan

   
 

                                                                                                  

11.5.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

18.5.23

Meithrin Llawn amser / Y Gorlan

   
 

                                                                                                 

25.5.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

                                       HANNER TYMOR                    HALF TERM

8.6.23

Meithrin Llawn amser / Y Gorlan

   
 

                                                                                                 

15.6.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

22.6.23

Meithrin Llawn amser / Y Gorlan

   
 

                                                                                                   

29.6.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

6.7.23

Meithrin Llawn amser / Y Gorlan                                                                                            

   
   

13.6.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

Neges o`r Urdd i`r rhieni:

 

Mae Cystadlaethau Trawsgwlad i Ysgolion Cynradd nôl - am y tro cyntaf ers 2019!

 

Ras Trawsgwlad: 1000m a 2000m. 

13 Mai 2023, 2.30yp

Caeau Blaendolau, Aberystwyth

Merched a Bechgyn Bl.3 – 6 

Am ddim i aelodau’r Urdd

 

Dewch i gymryd rhan yng nghystadlaethau Trawsgwlad yr Urdd ym mis Mai eleni. Mae'n ddigwyddiad cenedlaethol sydd ar agor i holl blant blynyddoedd 3 i 6. 

 

Bydd rasys eleni yn digwydd fel rhan o benwythnos Gŵyl Gynradd ar gaeau Blaendolau, Aberystwyth, lle bydd gwledd o gampau gwahanol yn cael eu chwarae trwy'r penwythnos.

 

Bydd rasys 1000m i flynyddoedd 3 - 5 a ras 2000m ar gael i flwyddyn 6. Bydd hefyd categorïau i blant gydag anabledd. 

 

Mae croeso mawr i rieni i ddod i wylio a chefnogi ar y diwrnod! Mae maes parcio ar gael yng nghaeau clwb pêl-droed Padarn FC, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3TL am £3.

 

Gall plant cael eu cofrestru a`i gludo rhieni. Bydd cofrestru hefyd ar agor ar ddiwrnod y gystadleuaeth rhwng 10:00 – 14:00.

 

Os hoffech gofrestru eich plenty / plant gallwch e-bostio Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Cofion cynnes,

 

M. Lewis

Pennaeth