10/01/2024
Adroddiad Estyn
Annwyl Rieni / Gwarcheidwaid,
Fel y gwyddoch, aeth yr Ysgol trwy arolwg Estyn yn ddiweddar. Hoffwn ddiolch i rieni a ymatebodd i lenwi’r holiadur gan Estyn ac i roi eu hamser i siarad gyda’r Arolygwyr. Rydym yn ddyledus i'r rai a weithiodd yn galed i adnewyddu, addurno, garddio ac i drwsio eiddo’r Ysgol. Diolch am eich cefnogaeth.
Cafodd y disgyblion, rhieni, staff a’r llywodraethwyr eu cyfweld; arsylwent wersi; mynychwyd gwasanaethau a chraffwyd tystiolaeth.
Hoffwn ddiolch o waelod fy nghalon i’n staff: athrawon, cynorthwywyr, glanhawraig, cogyddes, a gwirfoddolwyr am eu gwaith caled. Dylai pawb fod yn falch am eu cyfraniad i gefnogi’r disgyblion yn Ysgol Cenarth. Mae eu cydwybodolrwydd yn amlwg yn yr Arolwg a phob dydd.
Yn olaf hoffwn ddiolch i’r llywodraethwyr am eu gwaith yn ystod yr Arolwg.
Cyhoeddwyd yr adroddiad ar y 27ain o Ragfyr 2023. Gweler y ddolen isod am fynediad i’r adroddiad gan Estyn.
Yn gywir,
Mr L. Burrows.
Pennaeth.