cynllun gwen

Rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg ymysg plant Cymru yw Cynllun Gwên. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a chafodd ei lansio yn 2009. Mae holl wasanaethau'r Cynllun Gwên a holl driniaethau deintyddol y GIG ar gyfer plant yn RHAD AC AM DDIM. 

Rhaglen ataliol ar gyfer plant o enedigaeth:  Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd a gwasanaethau blynyddoedd cynnar eraill. Y nodau yw helpu i gychwyn arferion da yn gynnar trwy roi cyngor i deuluoedd â phlant ifanc, gan roi brwsys dannedd a phast dannedd, ac annog mynd i bractis deintyddol cyn pen-blwydd cyntaf y plentyn. 


Rhaglen ataliol i blant Meithrin ac Ysgolion Cynradd: Mae hyn yn cynnwys cyflwyno rhaglenni brwsio dannedd a farnais fflworid mewn meithrinfeydd ac ysgolion ar gyfer plant i helpu i ddiogelu dannedd yn erbyn pydredd.

 

Brwsio Dannedd

 

Brwsio dannedd gartref

Mae past dannedd fflworid yn helpu i gadw dannedd yn gryf.

  • Gall plant ddefnyddio past dannedd sy'n cynnwys fflworid (1000- 1450ppm F)
  • Brwsiwch ddannedd eich plentyn ddwywaith y dydd, yn enwedig cyn mynd i’r gwely gyda’r nos
  • Ar gyfer plant o dan 3 oed, defnyddiwch haen denau o bast dannedd yn unig
  • Ar gyfer plant dros 3 oed, defnyddiwch swm sydd yr un faint â physen.

Brwsio Dannedd Sut a Maint

  • Mae angen cymorth i frwsio ar blant o dan 8 oed
  • Peidiwch â gadael iddynt rinsio eu cegau ar ôl brwsio, yn hytrach dylent boeri’r past dannedd allan yn unig
  • POERI NID RINSIO yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio past dannedd fflworid 
  • Cofiwch fynd â brwsh a phast dannedd eich plentyn gyda chi pan fyddwch yn ymweld â theulu a ffrindiau a phan fyddwch yn mynd ar eich gwyliau
  • Hyd yn oed os bydd eich plentyn yn ymuno â rhaglen brwsio dannedd mewn meithrinfa/yn yr ysgol, mae’n dal i fod yn bwysig iddynt frwsio ei ddannedd gartref ddwywaith y dydd, yn enwedig cyn mynd i'r gwely

Dannedd Babi