Siarter Iaith
Ysgol Cenarth
Y Criw Cymraeg
Y Criw Cymraeg yw pwyllgor y Cyngor Cymreig Campus. Grwp o blant yr ysgol yw rhain sydd yn frwdfrydig i gybu defnydd o'r Iaith Gymraeg tu fewn a thu allan yr ysgol. Maent yn cwrdd unwaith pob pythefnos i drafod syniadau ac i werthuso effaith eu syniadau yn erbyn targedau'r siarter.
Mrs Heulwen Howells sy'n gyfrifol am oruwchwylio'r Criw ac yn eu helpu gyda'u trefniadau. Mae Mr Chris James, cadeirydd y Llywodraethwyr, hefyd yn gyfrifol am helpu'r Criw!
Beth yw'r Siarter Iaith?
Cynllun er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol yn ysgolion Cymru yw’r Siarter Iaith. Mae dau arwr sef Seren a Sbarc yn helpu i hybu ac hyrwyddo gwaith y Siarter Iaith. Bydd y ddau arwr yma ar bosteri a bathodynnau yn annog plant rhwng 3 a 7 oed yn yr Ysgol i ddefnyddio’r iaith ar y iard, yn y cartref ac yn y dosbarth.
Fel rhan o’r Siarter, mae pob ysgol unigol yn cwblhau ymarfer sylfaenol i bennu defnydd o’r iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur. Mae’r cynllun yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol – yn ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a’r gymuned ehangach. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio tuag ar ennill y wobr arian ym mis Gorffennaf.
Mae cyfathrebu yn rhan bwysig o fywyd cyfoes – mae tyfu fyny yn ddwyieithog yn golygu bydd plant yn datblygu sgiliau bywyd.
Ein Gweledigaeth
Siarad Cymraeg gyda balchder ar bob adeg, yn y dosbarth, mewn sefyllfaoedd llai ffurfiol ac amseroedd chwarae.
Ein gweledigaeth yw bob pob aelod o staff yn fodel rôl dda wrth siarad Cymraeg ac wrth gynllunio a chynnig cyfleoedd I’r disgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o’r diwylliant Cymreig a hanes Cymru. Gofynnir am gyfraniad pob aelod o’r gymuned ysgol – y disgyblion, cyngor ysgol, y staff, y rhieni, y llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Sicrha hyn I’r disgyblion ddatblygu yn ddinasyddion gwybodus, dwyieithog y neu cymuned. Gwella’r defnydd o’r Gymraeg y tu allan I’r ystafell ddosbarth a’r ysgol. Gwerthfawrogi iaith ein cenedl fel peth byw. Dangos parch tuag at yr iaith. Codi hyder y disgyblion wrth ddefnyddio’r iaith.
Pwy? Pam? Beth? Ble? Pryd?
Pwy?
Pam?
Mae'r Iaith Gymraeg yn rhywbeth byw!
I wella defnydd y Gymraeg yn yr ysgol a thu hwnt iddi.
I ddangos parch at yr iaith.
I ddatblygu hyder wrth ddefnyddio'r iaith.
Ble?
Siopau
Neuadd
Swyddfa Ysgol
Gyda ffrindiau ar y iard
Yn y parc
Yn y ty
YM MHOBMAN!
Pwy?
Pennaeth
Staff ysgol
Staff y gegin
Llywodraethwyr
Disgyblion
Rhieni
Ymwelwyr
PAWB!
Pryd?
Drwy'r amser - Yn enwedig y tu allan i'r dosbarth / ysgol!
Sut?
Defnyddio geiriau/ymadroddion yn Gymraeg wrth siarad gydag eraill.
Dewis opsiynau Cymraeg (dewis bwyd, wrth siopa)
Ein Targedau
- Siarad Cymraeg â phlant a staff yn y dosbarth, corridor a neuadd ginio;
- Siarad Cymraeg ar iard yr Ysgol;
- Gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg;
- Defnyddio technoleg drwy gyfrwng y Gymraeg e.e apiau/We;
- Teimlo yn hyderus wrth weithio drwy gyfrwng y Gymraeg e.e darllen, ysgrifennu ar draws y meysydd dysgu a phrofiad.