bachgen teitl  merch teitl

 

Croeso i ddosbarth 'Y Gorlan

Dosbarth y Meithrin/Gorlan

 

              Athro: Miss L Carruthers               

  IMG 2491

 

   Cynorthwyydd dosbarth: Mrs S Elliott

 IMG 2470

 

 Y_Gorlan_1.jpg

 

 

 

Y_Gorlan_2.jpg

 

 

 

Bwriad y dudalen hon yw i roi blas i chi o weithgareddau tymhorol y dosbarth.

MicrosoftTeams image 6

O fewn y Cyfnod Sylfaen mae rôl y plant yn allweddol bwysig wrth gynllunio a gweithredu’r cwricwlwn. Maent yn gweithio’n agos gyda’r athrawon i gynhyrchu syniadau er mwyn creu mapiau meddwl ar themau penodol.

Caiff y map meddwl ei ddefnyddio fel arf bwysig i dargedu sgiliau penodol o fewn y chwech Maes Dysgu (Iaith, Mathemateg, Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, Datblygiad Creadigol, Datblygiad Corfforol, Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol) sy’n cynnwys agweddau Rhaglen Dysgu Byd Eang.

Mae hyn yn gyfle i asesu gwybodaeth a dealltwriaeth, rhannu syniadau a maethu gwaith grŵp, atgyfnerthu profiadau blaenorol a herio sgiliau meddwl y disgyblion ac ymestyn y dysgu.

 

Ein gweledigaeth yn Ysgol Gynradd Cenarth yw meithrin, ysbrydoli, cefnogi a herio ein holl ddisgyblion gan ddefnyddio profiadau dysgu pleserus, ystyrlon ac amrywiol.

Gwneir hyn er mwyn iddynt ddod yn ddysgwyr gydol oes sy’n cyrraedd eu llawn botensial mewn byd sy’n newid yn barhaus. Mae cymuned ein hysgol yn deulu sy'n cynnwys plant, rhieni, llywodraethwyr, athrawon a'r gymuned. Rydym yn cydweithio i greu amgylchedd cynhwysol, amrywiol a meithringar lle mae lles a hapusrwydd pob plentyn yn ein gofal wrth wraidd popeth a wnawn. Gwneir hyn yng nghyd-destun ein cymuned leol a’n lle ni o fewn Cymru a’r byd ehangach.

Ein nod yw gwreiddio arferion da yn natblygiad moesol, cymdeithasol ac emosiynol ein plant. Crëir hyn drwy’r Cwricwlwm i Gymru a’i bedwar diben. Bod ein plant yn dod yn:

  • Dysgwyr Uchelgeisiol a Galluog.
  • Cyfranwyr Mentrus a Chreadigol.
  • Dinasyddion Cymru a'r Byd â gwybodaeth foesegol.
  • Unigolion iach a hyderus.