Annwyl Rieni,
Dyma adroddiad blynyddol y Pennaeth: Meinir Lewis.
Diolch iddi am adroddiad manwl ac o safon uchel unwaith eto. Mae Cofid wedi achosi digon o heriau i'r ysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a gobeithio yn wir ein bod yn dod allan ohono nawr. Gadewch imi hefyd i ddiolch i'r holl athrawon a staff yr ysgol am iddynt fynd y filltir ychwanegol wrth bartoi gwaith i'r disgyblion i wneud adref yn ystod cyfnodau pan oedd yr ysgol ar gau. Diolch i chi hefyd fel rhieni am fod yn gefn i'ch plant yn y cyfnod hwn.
Adroddiad blynyddol y Pennaeth P1
Adroddiad blynyddol y Pennaeth P2
Adroddiad blynyddol y Pennaeth P3
Cynlluniau Gwariant Cenarth 22
Cynnydd ers yr arolwg diwethaf
Mae cynlluniau newydd ar waith gyda'r maes parcio a gobeithio cael rhagor i adrodd i chi y tymor nesaf. Mae nifer disgyblion yr ysgol yn gryf iawn ar hyn o bryd a gyda Meithrinfa newydd Nawmor yn derbyn disgyblion mewn mae'r rhagolygon yn eithaf gobeithiol am y dyfodol. Mae darpariaeth ôl ysgol wedi dechrau hefyd a gobeithio y gallwn weld y defnydd o’r gwasanaeth gwerthfawr hwn yn cynyddu yn ystod y misoedd sy’n dod.
Diolch,
Chris James (Cadeirydd y Llwyodraethwyr)