Crynodeb o’r Cwricwlwm i Gymru 2022
Mae ein cwricwlwm wedi’i gyd-lunio drwy ymgysylltu a’r holl randdeiliaid a bydd yn bodloni’r gofynion canlynol:
Ein gweledigaeth
-
Ysgol feithringar, hapus a chroesawgar
-
Amgylchedd ddiogel, cefnogol a chynhwysol lle dethlir amrywiaeth ddiwylliannol a
gwerthfawrogir gwahaniaeth.
-
Awyrgylch ac ethos deuluol, cadarnhaol, parchus, caredig, brwdfrydig, positif,
cyfeillgar gyda disgwyliadau uchel yn rhan allweddol.
-
Ymdeimlad cryf o gymuned a phartneriaiethau.
-
Hybu Cymreictod a balchder at Gymru a thu hwnt yn rhan annatod o’m bywyd a
gwaith.
-
Ysgol sy’n dathlu cyflawniadau ac yn ysgogi cariad at ddysgu ymhob aelod o o’r teulu
gyda dysgwyr sy’n ganolog, yn cael profiadau a phlentyndod hapus gyda chyfleoedd i
flodeuo a chyflawni hyd eithaf eu gallu a’u potensial.
-
Rhoddir pwysigrwydd i addysgu a dysgu rhagorol drwy rhaglenni dysgu
eang,cyfoethog, cyffrous ac i ddatblygu annibynniaeth, doniau ac hyder.
-
Disgwylir gweld y safonau ymddygiad uchaf gyda pharch at eu hunain, at eraill ac at
bethau.
Ein gwerthoedd
➢ Uchelgais a dyhead
➢ Brwdfrydedd ac anogaeth ➢ Caredigrwydd a pharch
➢ Lles ac ymddiriedaethEin cwricwlwm cynhwysol
Bydd ein cwricwlwm yn codi’r dyheadau ar gyfer pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael cymorth I wireddu uchelgeisiau a dyheadau’r pedwar diben, ac i symud ymlaen. Yr ydym wedi ystryried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn diwallu anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.
Y Pedwar Diben
Y pedwar diben yw`r man cychwyn a`r dyhead ar gyfer cynllun cwricwlwm ein hysgolion. Nod ein hysgol yw cefnogi pob dysgwr i ddod yn:
-
Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, galluog, yn barod I ddysgu drwy gydol eu bywydau;
-
Cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod I chwarae rhan lawn mewn bywyd a
Gwaith;
-
Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a`r byd;
-
Unigolion iach, hyderus, yn barod I fyw bywydau boddhaus fel aelodau
gwerthfawr o gymdeithas.
Mae`r datganiadau cwricwlwm yn darparu cyfleoedd cyfoethog a phrofiadau dysgu dilys I ddatblygu`r cysyniadau, yr wybodaeth a`r sgiliau allweddol fel y`u disgrifir yn y datganiadau o`r hyn sy`n bwysig ac yn unol a`r Datganiadau o`r Hyn sy`n Bwysig.
Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDaPh)
Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu drwy`r 6 MDaPh o:
-
Ieithoedd, Llyhtrennedd a Chyfathrebu
-
Celfyddydau Mynegiannol;
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg;
-
Dyniaethau;
-
Mathemateg a Rhifedd;
-
Iechyd a Lles
Dysgu, Dilyniant ac Asesu
Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu drwy gynllunio cyfleoedd dysgu sy`n defnyddio`r egwyddorion addysgeg.
Mae ein cwricwlwm, a gefnogir gan ddysgu ac addysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr I wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a`u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae`n ei olygu I wneud cynnydd mewn maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a`u dealltwriaeth, eu sgiliau a`u galluoedd, a`u priodoleddau a`u tueddiadau ac fe`I hysbysir gan yr egwyddorion cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein dull o asesu, a`i diben yw llywio`r Gwaith o gynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu`n cael ei ymgorffori fel rhan annatod o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu wrth fynd I mewn i`r Ysgol.Cymraeg
Fel Ysgol cyfrwng Cymraeg bydd dysgu yn digwydd yn y Gymraeg o`r blynyddoed cynnar.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr I ddatblygu
cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn ac i`w hymestyn a`u cymhwyso ar draw pob maes. Bydd y dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draw y cwricwlwm i:
-
Ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
-
Ddefnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn
-
Fod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i`w help I weithredu a
chyfathrebu`n effeithiol a gwneud synnwyr o`r byd.
Hawliau Dynol CCUHP/ CCUHPA
Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau`r Plentyn, a`r Confensiwn Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, ymhlith y rhai sy`n darparu dysgu ac addysgu.
Addysg Gyrfaoedd a phrofiadau sy`n gyssyltiedig a byd Gwaith
Bydd ein cwricwlwm yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau sy`n gysylltiedig a Gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.
Addysg Cyd-Berthynas a Rhywioldeb (ACRh)
Byddwn yn helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau, i gyd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd, yw sylfaen ACRh. Mae'r cydberthnasau hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.
Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Mae Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn un o ofynion mandadol Cwricwlwm i Gymru ac mae'n orfodol i bob dysgwr o 3 i 16 oed. Gan Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn bwnc a bennir yn lleol, mae'r maes llafur cytûn yn nodi'r hyn y dylid ei addysgu mewn Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu'r canllawiau hyn.
Adolygu a mireinio
Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu'n gyson er mwyn ymateb i ymchwiliad proffesiynol, anghenion newidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn gynhwysol ac yn ymatebol, gan ddiwallu anghenion pob dysgwr. Bydd yr adolygiadau'n ystyried barn rhanddeiliaid a byddant yn cael eu cymeradwyo gan y corff llywodraethu. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'n cwricwlwm ac yn adolygu'r crynodeb os gwneir newidiadau i'r cwricwlwm yn ystod y broses adolygu.
Pennaeth: Meinir Lewis
Cadeirydd y Llywodraethwyr: C. James Dyddiad yr adolygiad: Gorffennaf 2023