Ysgol Gynradd Cenarth
Annwyl Rieni / Warcheidwaid,
Mae tymor yr haf bellach wedi cyrraedd a gyda hyn mae’r tywydd wedi cynhesu yn sylweddol. Mae iechyd a lles ein disgyblion o bwysigrwydd mawr, felly hoffem ofyn yn garedig os allwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn dilyn yr arferion pwysig canlynol i gadw ein dysgwyr yn iach, ddiogel a hapus:
Diogelwch Haul:
- Gyda’r tywydd poeth mae risg o losgi, felly plîs sicrhewch fod digonedd o eli haul ar eich plentyn cyn iddo / iddi gyrraedd yr ysgol a bod potel ar gael yn eu bag i ail-roi os oes angen. (Os oes gan eich plentyn alergedd at rai mathau o eli haul, gadewch i’r ysgol wybod).
- Sicrhewch fod het ar gael i’ch plentyn er mwyn arbed gan yr haul.
Bwyd a Diod Iach:
Mae ein hysgol yn cydymffurfio â dogfen gyfarwyddyd statudol Llywodraeth Cymru: Bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir.:
Am fwy o wybodaeth am sut i greu pecynnau bwyd iachus gweler y wefan Newid am Oes neu dilynwch y linc isod: http://change4lifewales.org.uk/recipes/lunchboxes/?lang=cy
- Mae’n bwysig fod plant yn yfed digon o ddŵr yn ystod y diwrnod. Plîs sicrhewch fod gan eich plentyn potel ddŵr pob dydd. Dŵr yw’r unig hylif dylai fod mewn poteli a ddaw i’r ysgol. Mae dŵr ar gael yn rhydd i ddysgwyr yn yr ysgol a llaeth yw'r unig ddiod arall a gynigir. Yn ystod amser cinio bydd dŵr ar gael ar bob bwrdd felly does dim angen diodydd ychwanegol yn y pecyn bwyd.
- Danfonwch ffrwythau a /neu lysiau ffres yn unig ar gyfer amser byrbryd.
Arweiniad ar Hylendid Bwyd a Diod:
- Mae angen cadw pecyn cinio yn oer ar gyfer dibenion hylendid bwyd yn yr ysgol ac ar ymweliadau addysgol. Ychwanegwch blocyn iâ neu defnyddiwch fag oer.
- Dylai poteli dŵr cael eu golchi o leiaf unwaith yr wythnos mewn dŵr twym efo sebon neu yn beiriant golchi llestri.
- Diolch am eich cefnogaeth wrth greu amgylchedd iach a hapus i bawb yn yr ysgol.
Yn gywir,
M. Lewis
Pennaeth
- Mae ein cyngor ysgol, staff yr ysgol a llywodraethwyr yn annog pecyn cinio iachus ar bob achlysur - yn yr ysgol ac ar ymweliadau addysgol. Wrth gynnig bwyd iachus mae eich plentyn yn medru cael beth sydd ei angen i fod yn egniol yn yr ysgol ac i dyfu’n iachus. Gweler yr enghraifft isod o becyn bwyd iachus: