Hunan ynysu (rheoliadau ers Awst 2021)

 

Prif bwyntiau

Os oes gennych chi unrhyw rai o symptomau’r coronafeirws (tymheredd uchel, peswch cyson newydd, colli blas neu arogl – neu newid yn y synhwyrau hynny), dylech hunanynysu gartref a chael prawf. Ni ddylech fynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty.

 

Mae hunanynysu yn golygu nad ydych chi’n gadael y tŷ. Dylech hunanynysu ar unwaith os oes gennych chi symptomau a pharhau i hunanynysu hyd nes y cewch ganlyniad prawf PCR COVID-19.

 

Os ydych wedi cael canlyniad positif am COVID-19, neu os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru wedi gofyn i chi hunanynysu, rhaid i chi aros gartref. Rydych chi’n torri’r gyfraith a gallech chi gael dirwy os nad ydych chi’n aros gartref ac yn hunanynysu.

 

Y cyfnod hunanynysu yw 10 diwrnod ers:

  • y diwrnod yn syth ar ôl y dyddiad y dechreuodd eich symptomau
  • y diwrnod yn syth ar ôl dyddiad eich prawf positif, neu’r dyddiad a gadarnhawyd i chi gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu os cawsoch eich nodi fel cyswllt agos i rywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19.

 

Mae hunanynysu yn berthnasol i oedolion a phlant o bob oed.

O 7 Awst 2021 ymlaen, nid yw oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn ac a gafodd y brechlyn yn y DU, na phobl ifanc o dan 18 oed, yn gorfod hunanynysu mwyach os ydynt yn cael eu nodi fel cyswllt agos i rywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19. Bydd gofyn i chi gymryd profion PCR ar ddiwrnod 2 ar ôl eich cysylltiad diwethaf â’r achos positif (neu cyn gynted â phosibl) ac ar ddiwrnod 8. Mae’n bwysig eich bod yn cymryd y profion hyn hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iawn – mae’n bosibl y bydd gennych COVID-19 hyd yn oed os nad oes gennych symptomau.

 

Bydd y rhai nad yw’n ofynnol iddynt hunanynysu mwyach hefyd yn cael cyngor ac arweiniad gan y swyddogion olrhain cysylltiadau ynglŷn â sut i ddiogelu eu hunain, gan gynnwys:

  • Ceisio lleihau cysylltiad ag eraill ac osgoi lleoedd prysur, yn enwedig o dan do
  • Ystyried defnyddio profion llif unffordd yn fwy rheolaidd neu bob dydd yn ystod y cyfnod pan fyddech fel arall wedi bod yn hunanynysu
  • PEIDIO ag ymweld â phobl agored i niwed megis y rhai mewn cartrefi gofal neu ysbytai
  • Gweithio gartref os nad ydych eisoes yn gwneud hynny
  • Rhoi gwybod i’ch cyflogwr eich bod wedi dod i gysylltiad ag achos o COVID-19
  • Gwneud ymdrech ychwanegol i sicrhau’ch bod yn golchi’ch dwylo’n drylwyr ac yn rheolaidd ac yn gwisgo gorchudd wyneb
  • Os ydych yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi gymryd profion ychwanegol rhag ofn neu’n gofyn i chi wneud rôl arall dros dro, fel yr awgrymir yn y canllawiau o’r enw Cysylltiadau COVID-19: canllawiau i staff iechyd a gofal cymdeithasol

 

Os byddwch yn datblygu symptomau COVID-19 unrhyw bryd, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, ac ni waeth beth fo’ch oedran na’ch statws brechu, dylech hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf PCR COVID-19.

 

Os ydych dros 18 oed, ac nad ydych wedi cael cwrs llawn o frechlyn COVID-19 yn y DU, dylech hunanynysu am 10 diwrnod:

  • os byddwch yn datblygu symptomau COVID-19, ni waeth pa mor ysgafn ydynt (a dylech archebu prawf)
  • os ydych yn byw gyda rhywun sydd wedi datblygu symptomau COVID-19 ac sy’n aros am ganlyniad prawf PCR
  • os ydych yn byw gyda rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19
  • os yw’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi cysylltu â chi i ddweud wrthych am hunanynysu gan eich bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19