unnamed Ysgol Gynradd Cenarth

 

Annwyl Rieni / Warcheidwaid,

 

Mae tymor yr haf bellach wedi cyrraedd a gyda hyn mae’r tywydd wedi cynhesu yn sylweddol. Mae iechyd a lles ein disgyblion o bwysigrwydd mawr, felly hoffem ofyn yn garedig os allwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn dilyn yr arferion pwysig canlynol i gadw ein dysgwyr yn iach, ddiogel a hapus:

Diogelwch Haul:

  1. Gyda’r tywydd poeth mae risg o losgi, felly plîs sicrhewch fod digonedd o eli haul ar eich plentyn cyn iddo / iddi gyrraedd yr ysgol a bod potel ar gael yn eu bag i ail-roi os oes angen. (Os oes gan eich plentyn alergedd at rai mathau o eli haul, gadewch i’r ysgol wybod).
  1. Sicrhewch fod het ar gael i’ch plentyn er mwyn arbed gan yr haul.

Bwyd a Diod Iach:
Mae ein hysgol yn cydymffurfio â dogfen gyfarwyddyd statudol Llywodraeth Cymru: Bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir.:

Healthy Lunchbox

Am fwy o wybodaeth am sut i greu pecynnau bwyd iachus gweler y wefan Newid am Oes neu dilynwch y linc isod: http://change4lifewales.org.uk/recipes/lunchboxes/?lang=cy

  1. Mae’n bwysig fod plant yn yfed digon o ddŵr yn ystod y diwrnod. Plîs sicrhewch fod gan eich plentyn potel ddŵr pob dydd. Dŵr yw’r unig hylif dylai fod mewn poteli a ddaw i’r ysgol. Mae dŵr ar gael yn rhydd i ddysgwyr yn yr ysgol a llaeth yw'r unig ddiod arall a gynigir. Yn ystod amser cinio bydd dŵr ar gael ar bob bwrdd felly does dim angen diodydd ychwanegol yn y pecyn bwyd.
  1. Danfonwch ffrwythau a /neu lysiau ffres yn unig ar gyfer amser byrbryd.

 

Arweiniad ar Hylendid Bwyd a Diod:

  1. Mae angen cadw pecyn cinio yn oer ar gyfer dibenion hylendid bwyd yn yr ysgol ac ar ymweliadau addysgol. Ychwanegwch blocyn iâ neu defnyddiwch fag oer.
  1. Dylai poteli dŵr cael eu golchi o leiaf unwaith yr wythnos mewn dŵr twym efo sebon neu yn beiriant golchi llestri.
  1. Diolch am eich cefnogaeth wrth greu amgylchedd iach a hapus i bawb yn yr ysgol.

 

 

Yn gywir,

M. Lewis

Pennaeth

  1. Mae ein cyngor ysgol, staff yr ysgol a llywodraethwyr yn annog pecyn cinio iachus ar bob achlysur - yn yr ysgol ac ar ymweliadau addysgol. Wrth gynnig bwyd iachus mae eich plentyn yn medru cael beth sydd ei angen i fod yn egniol yn yr ysgol ac i dyfu’n iachus. Gweler yr enghraifft isod o becyn bwyd iachus: