Annwyl rieni / warcheidwaid,
Diolch yn fawr am bob cydweithrediad wrth i ni barhau i ymateb i her y coronafeirws.
Gweler y canllawiau gan yr Awdurdod Addysg o safbwynt rhannu cardiau Nadolig yn yr ysgol. Nodwch os gwelwch yn dda i newidiadau yn y diwrnod derbyn cardiau ac anrhegion i 11eg o Ragfyr er mwyn rhannu yn ddiogel yr wythnos 14eg o Ragfyr.
Mae croeso i bawb wisgo siwmper Nadolig i’r ysgol dydd Gwener nesaf, Rhagfyr 11eg a chyfrannu mewn amlen i`r elusen Achub y Plant.
Bydd Cinio Nadolig i blant yn cael ei weini ar ddydd Mercher, 9fed o Ragfyr.
Edrychwn ymlaen at weld y plant nol ar ddydd Llun 7fed o Ragfyr. Gallaf atgoffa chi i ddychwelyd y cyfrifiaduron ar ddydd Llun os gwelwch yn dda.
Fe fydd parti ar y 18fed o Ragfyr, gall y plant wisgo dillad parti / unrhyw wisg.
M. Lewis
Pennaeth