Annwyl rieni / warcheidwaid, staff a disgyblion,
Diolch yn fawr am bob cydweithrediad wrth i ni barhau i ymateb i her y coronafeirws. Mae’n sefyllfa anodd i chi ac I bawb ond hoffwn i ddiolch i chi’r rhieni am y gefnogaeth arbennig yr ydych yn ei roi i’r plant wrth eu cefnogi yn y gwaith ar-lein.
Mae’n debygol eich bod yn ymwybodol o gyhoeddiad y Gweinidog Addysg Kirsty Williams ar ddydd Gwener parthed ail agor ysgolion i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen ar ôl hanner tymor.
Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cynnwys y Meithrin, Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2. Mi fyddwn yn rhannu llythyr gan yr Awdurdod Addysg wythnos hyn yn nodi’r trefniadau. Er mwyn hwyluso’r broses o ail groesawi’r disgyblion yn ôl i’r Ysgol, mae’n debygol y bydd rhai blynyddoedd yn ail ddechrau ar wahanol ddiwrnodau yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn Chwefror 22ain.Fe fydd rhagor o fanylion i ddilyn wythnos nesaf.
Mi fydd y canllawiau ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 yn cael ei hadolygu’n genedlaethol ar Chwefror 19eg. Cawn fwy o wybodaeth bryd hynny o safbwynt y cynlluniau ar gyfer Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6.
Mi fydd llai o dasgau I Gyfnod Sylfaen yr wythnos nesaf.
Ni fydd cyfnod o ffrydio byw ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen ar ddydd Gwener, Chwefror 12fed gan fydd y staff yn cynllunio ar gyfer yr hanner tymor nesaf. Mi fydd ffrydio byw Cyfnod Allweddol 2 yn parhau ond nid dros yr hanner tymor. Diolch i bawb am ymateb mor gadarnhaol yn ystod y cyfnodau yma.
Mi fydd yr ysgol yn cau am 3.30 ar ddydd Gwener, Chwefror 12fed ac yn ail agor ar ddydd Llun, Chwefror 22ain. Ni fydd aseiniadau na sesiynau byw dros hanner tymor.
Dyma’r dolenni ar gyfer gwneud cais am le. Mae’r dolenni ar agor tan 1yp bob dydd Mercher.
Ni fydd Gofal / Hwb dros yr hanner tymor.
https://forms.ceredigion.gov.uk/ufs/Emergency_Childcare.eb&LANGUAGE=CY https://forms.ceredigion.gov.uk/ufs/Emergency_Childcare.eb?LANGUAGE=EN
Cofion cynnes,
M. Lewis
Pennaeth