Annwyl rieni/ warcheidwaid,
Diolch i chi am eich amynedd a chefnogaeth dros yr hanner tymor diwethaf. Gwelir cyfnod heriol wrth i ni fyw gyda’r pandemig, ond, mae eich cefnogaeth wedi sicrhau bod pob disgybl wedi dychwelyd i’r ysgol a bod pawb wedi cadw’n ddiogel wrth ddilyn gweithdrefnau diogelu’r ysgol. Gobeithio bod staff a phob disgybl nawr wedi mwynhau ymlacio dros yr wythnos hanner tymor.
Mi fydd yr ysgol yn ail agor ar ddydd Mawrth, Tachwedd 3ydd.
Brechiad y Ffliw drwy chwistrell trwyn - Bydd y tîm nyrsys ysgolion yn ymweld â’r ysgol ar ddydd Iau, Tachwedd 5ed i gynnig brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn.
Rydyn ni’n gofyn i bawb gadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel ac i wneud eu gorau i atal rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys, sydd eisoes yn teimlo’r straen. Yn ogystal, mae’r tîm Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion wedi recordio dau flog sy’n addas ar gyfer eu dangos mewn ysgolion. Dilynwch y linc canlynol i’w gwylio;
https://schoolbeat.cymru/cy/newyddion/calan-gaeaf-2020/
Yn dilyn yr hanner tymor, byddwn yn dychwelyd i’r ysgol ar yr 3yddl o Dachwedd. Byddwn yn parhau gyda’r trefniadau sydd wedi bodoli ers dechrau’r tymor ar gyfer gollwng a chasglu eich plant. Unwaith eto, gofynnwn yn garedig am brydlondeb wrth ollwng a chasglu eich plentyn.
Diolch am eich cydweithrediad.
Cofion cynnes
M. Lewis
Pennaeth