Annwyl rieni / warcheidwaid,
Diolch yn fawr am bob cydweithrediad.
Brechlyn Ffliw: Mae angen dychwelyd eich ffurflen erbyn dydd Mawrth 13eg o Hydref os gwelwch yn dda.
Mewn achosion prin iawn mae’r brechlyn ffliw yn gallu achosi codiad mewn tymheredd disgybl am gyfnod o ryw 24 – 48 awr. Fel y gwyddoch, mae tymheredd bob plentyn o fewn y sir yn cael ei fesur ar fynediad i ysgol ar hyn o bryd fel rhan o’r gweithdrefnau mae’r Awdurdod Addysg wedi eu rhoi yn eu lle er mwyn diogelu yn erbyn Covid. Yn anffodus, nid oes modd hwylus i adnabod y ffactorau sy’n achosi codiad mewn tymheredd mewn unigolion.
Felly os digwydd i wres eich plentyn godi yn sgil derbyn y brechlyn bydd yn rhaid dilyn y gweithdrefnau arferol, sef:
1 |
Bydd angen i’r rhiant/gwarcheidwad drefnu prawf covid-19.
· Os yw’r rhiant/ aelod o’r cartref yn gweithio i’r Cyngor, bydd angen iddynt gysylltu â’i rheolwr llinell er mwyn trefnu prawf drwy gynllun profi’r cyngor. O fewn 24 awr i dderbyn yr atgyfeiriad byddwch yn derbyn galwad ffôn gan y Bwrdd Iechyd i drafod symptomau eich plentyn ac i asesu ymhellach os oes angen prawf Covid. Cofiwch sôn bod eich plentyn wedi derbyn brechlyn ffliw yn ystod y sgwrs ffôn.
· Os nad yw’r rhiant/aelod o’r cartref yn gweithio i’r cyngor, bydd angen iddynt ffonio 119 neu fynd ar wefan https://www.nhs.uk/ask-for-a-coronavirus-test. Os byddwch yn dewis ffonio 119 cofiwch sôn bod eich plentyn wedi derbyn brechlyn ffliw yn ystod y sgwrs ffôn.
· Os byddwch yn dewis e-bostio, o fewn 24 awr byddwch yn derbyn galwad ffôn gan y Bwrdd Iechyd i drafod symptomau eich plentyn ac i asesu ymhellach os oes angen prawf Covid. Cofiwch sôn bod eich plentyn wedi derbyn brechlyn ffliw yn ystod y sgwrs ffôn.
|
2 |
Yn dilyn y prawf, bydd y canlyniad yn cyrraedd ymhen 48-72 awr. Gofynnir i’r rhiant hysbysu’r ysgol o ganlyniad y prawf. |
3 |
Hyd nes daw canlyniad y prawf ‘nôl bydd angen i BAWB sy’n byw gyda’r disgybl hunan ynysu. |
4 |
Os bydd y prawf yn negyddol yna bydd angen i’r rhiant/gwarcheidwad ddarparu tystiolaeth o hyn i’r ysgol(ion) cyn gall y disgybl/disgyblion fynychu ysgol eto. |
5 |
Os daw’r prawf ‘nôl yn gadarnhaol, bydd angen i BAWB sy’n byw yn y cartref hunan ynysu am 14 diwrnod. |
6 |
Yn dilyn prawf cadarnhaol, bydd Tîm Olrhain Cyswllt yr Awdurdod yn cysylltu gyda chi a bydd angen i chwi gydweithio’n agos gyda hwy er mwyn helpu atal yr haint i ledu ymhellach. |
Os oes gennych unrhyw bryderon yna cysylltwch â mi ar unwaith.
Cofion Cynnes
Miss Lewis
Pennaeth