Annwyl rieni / warcheidaid,
Bydd plant yn y Cyfnod Sylfaen yn parhau i fod yn yr Ysgol. Mae rhaid dychwelyd cyfrifiaduron nawr os gwelwch yn dda.
Trefniadau dychwelyd ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 –
Bl 3 a 5 |
Dydd Llun 15fed Mawrth |
Bl 4 a 6 |
Dydd Mawrth 16eg Mawrth |
Bl 3, 4, 5 a 6 |
Bydd pob blwyddyn nôl yn yr ysgol erbyn dydd Mercher 17eg Mawrth |
Symptomau - dylai unrhyw un sydd â symptomau Covid-19 aros gartref ar unwaith, archebu prawf a hysbysu’r ysgol. Mae angen i'r aelwyd gyfan hunan ynysu nes bod canlyniad y prawf yn hysbys.
Mae'r symptomau'n cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholled neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas. Gall fod symptomau eraill yn gynnar, fel cur pen, blinder a gwinegon cyffredinol a phoenau sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.
Bydd cinio ysgol ar gael i bawb:
Bwydlen am ginio am yr wythnos 15.3.21 |
|
Dydd Llun 15.3.21
|
Pysgod Tatw pob llysiau Cacen Cwstard |
Dydd Mawrth 16.3.21 |
Pasticio Bara garlleg Cwci Llaeth |
Dydd Mercher 17.3.21 |
Cinio Selsig Cacen Lemon cwstard |
Dydd Iau 18.3.21 |
Sbagetti Cyw Iar Myffin Sudd Ffrwyth |
Dydd Gwener 19.3.21 |
Pitsa Sglodion Ffa pob Rolyn Hufen Ia |
Er mwyn anelu at sefyllfa lle mae rhieni / gwarcheidwaid yn ymbellhau’n gymdeithasol rydym am barhau i ddilyn yr amserlen isod er mwyn lleihau’r nifer o rieni / gwarcheidwaid sydd wrth gât yr ysgol ar yr un adeg;
Cyrraedd
8.45 - tacsis
8.50 - Bl 4, 5 a 6
9.00 - Blynyddoedd 2 a 3
9.10 - Derbyn a bl 1
9.15 - Meithrin
Gadael
3.10 – Meithrin a thacsis ysgol .
3.15 - Derbyn a bl 1 (a brodyr a chwiorydd iau)
3.20 – Bl 2 a 3 (a brodyr a chwiorydd iau)
3.30 – Bl 4, 5 a 6 (a brodyr a chwiorydd iau)
Diolch am eich holl gydweithrediad.
Cofion cynnes
M. Lewis