Dewiswch eich iaith

Iaith / Language

Annwyl rieni/warcheidwaid,

Mae’r drefn o ollwng y plant wrth yr ysgol wedi gweithio’n dda yn ystod yr wythnos gyntaf ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi am eich cydweithrediad. Mi fydd y drefn yma yn parhau.

Ni fydd y Clwb Brecwast ar gael i’r plant ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Mi fydd cinio ysgol poeth yn cael ei ddarparu gan y gegin o ddydd Llun 14eg o Fedi ymlaen. Eleni mae ysgolion Ceredigion yn symud i system dalu di-arian. Mi fyddwch wedi derbyn e bost yn egluro’r drefn newydd gan Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.  gyda’r testun ‘Ceredigion activation letter’. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr e- bost i gyd, cwblhau’r manylion os gwelwch yn dda. Rydym yn ymwybodol iawn fod y drefn hon yn newydd ac mi fyddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch cynorthwyo yn ystod yr wythnosau cyntaf tan fod pawb wedi cyfarwyddo â’r drefn. Mi fydd cinio ysgol am ddim yn parhau i blant penodol. Mae croeso i chi barhau gyda bocs bwyd os ydych yn dymuno. Peidiwch â phoeni os na fydd y system yn gweithio i chi yn syth - fe wnawn ni’n siŵr y bydd eich plentyn yn derbyn cinio.

Diolch am bob cymorth gyda chasglu disgyblion ar ddiwedd y dydd. Hoffwn eich atgoffa i fod yn brydlon ac i barchu’r rheol ymbellhau gymdeithasol wrth i chi ymgynnull gydag oedolion eraill ger y giât.

Gweithredu Teams - yn ystod yr wythnosau nesaf mi fyddwn am sicrhau fod holl ddisgyblion a rhieni / gwarcheidwaid yr ysgol yn gallu cael mynediad i raglen Teams. Rydym am sicrhau fod gennym gyswllt effeithiol er mwyn darparu gwaith i’r disgyblion pe bai rhaid cau dosbarth neu ran o’r ysgol ar frys. Os ydych yn anghyfarwydd gyda Microsoft Teams, dyma gwpwl o ddolenni i egluro:

> Logio i mewn i Hwb a Teams   > Sut i gyrraedd Assignments yn Teams

Os oes gennych unrhyw bryderon am addysg eich plentyn yna cysylltwch â mi ar unwaith.

Cofion cynnes

Miss M. Lewis

Pennaeth