Annwyl rieni / warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

Mae`r ysgol ar gau ar ddydd Llun, Mai 3ydd. Mwynhewch y diwrnod.

 

Bydd yr Ysgol ar gau ar ddydd Gwener 7fed o Fai ar gyfer hyfforddiant staff.

 

Mi fydd yr ysgol yn cau ar ddydd Gwener, Mai 28ain ar gyfer gwyliau’r Sulgwyn Mi fydd yr ysgol yn ail agor ar ddydd Llun, Mehefin 7fed.

 

Cwricwlwm Newydd – gwahoddir am eich adborth a’ch syniadau ar gyfer datblygu cwricwlwm yr ysgol      ar gyfer y dyfodol.

Trafodwch gyda’ch plentyn / plant a cheisiwch feddwl am o leiaf un peth neu fwy a’u danfon ataf ar pMae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. cyn ddydd  Gwener.

 

Symptomau - dylai unrhyw un sydd â symptomau Covid-19 aros gartref ar unwaith, archebu prawf a hysbysu’r ysgol. Mae angen i'r aelwyd gyfan hunanynysu nes bod canlyniad y prawf yn hysbys.

Mae'r symptomau'n cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholled neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas. Gall fod symptomau eraill yn gynnar, fel cur pen, blinder ac gwinegon cyffredinol a phoenau sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.

 

Bwydlen am yr wythnos:

 

   Dydd Mawrth

   Grilen cyw iâr

   Cacen siocled

 

    Dydd Mercher

    Pysgod a sglodion

    Ffrwyth, bisgedi, llaeth

 

     Dydd Iau

    Cinio selsig

     Rolyn hufen iâ

 

Cofion cynnes,

 

M. Lewis

Pennaeth