Annwyl rieni / warcheidwaid / disgyblion,

Diolch yn fawr am bob cydweithrediad.

Dysgu o bell - bydd athrawon a’r staff cynorthwyol yn parhau i ddysgu o bell ac mae hyn yn debygol o barhau am weddill yr hanner tymor os na fydd cyfraddau trosglwyddo cymunedol wedi lleihau yn sylweddol erbyn Ionawr 29ain.

  Mae eich barn am Ddysgu o Bell yn hollbwysig i ni felly gofynnaf yn garedig i chi lenwi`r holiadur gan ddefnyddio`r linc isod.

https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=Ug4_TzS3ZEGUCRtgHRR5k9VKttFG7BNIuL5Tp0WSZc1UMzE1V0lVODZYS1AwQ0E2NkNTMUtERllHNi4u

Aseiniadau Teams – diolch am ymateb mor gadarnhaol i’r aseiniadau sydd wedi eu gosod ar safle Teams eich plentyn. Cofiwch gysylltu gyda’r athrawon dosbarth neu gyda’r ysgol os oes unrhyw bryderon gyda chi o safbwynt dod o hyd i’r tasgau neu unrhyw anghenion o safbwynt offer cyfrifiadurol ac agweddau   technegol.

Gofal Plant - mae cyfle i blant gweithwyr allweddol rheng flaen fynychu’r ysgol ar gyfer gofal plant. Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gadw’r disgyblion oddi fewn i’w grwpiau cyswllt. Bydd angen i’r disgyblion ddod â thocyn bwyd i’r ysgol ar y diwrnodau hynny.

Dyma’r dolenni ar gyfer gwneud cais am le. Mae’r dolenni ar agor rhwng 4yp bob dydd Llun tan 1yp bob dydd Mercher.

https://forms.ceredigion.gov.uk/ufs/Emergency_Childcare.eb&LANGUAGE=CY

https://forms.ceredigion.gov.uk/ufs/Emergency_Childcare.eb?LANGUAGE=EN

Cyfarfodydd - mi fydd staff yr ysgol yn parhau i drefnu’r cyfarfodydd ar Teams. Pwrpas y cyfarfod fydd i ddarparu cyfle i’r disgyblion dderbyn arweiniad am y tasgau ac i drafod unrhyw agweddau sydd angen sylw pellach.

Gweithredu yn effeithiol yn eich cyfarfodydd – wrth i ni werthuso effeithiolrwydd y cyfarfodydd byw mae rhai cynghorion y byddem yn hoffi eu rhannu gyda chi:

·         Mi fydd yr athrawon / staff yn cychwyn POB cyfarfod ac mae hyn yn debygol o ddigwydd 5 munud cyn amser cychwyn swyddogol. Yn ystod y cyfnod yma mi fydd staff yr ysgol yn monitro pwy sydd yn ymuno ac yn sicrhau fod y dechnoleg yn gweithio’n effeithiol.

·         Mae’n bwysig nad yw disgyblion yn cychwyn cyfarfodydd – mae angen aros tan fod gwahoddiad ‘Join now’ yn ymddangos ar y sgrîn.

·         Pan fyddwch yn ymuno dylech sicrhau fod eich microffôn wedi ei dawelu (mute)

·         Allwch chi deipio bore da neu brynhawn da yn y sgwrs (chat) ar ochr dde y dudalen, ceisiwch osgoi gosod lluniau neu deipio sylwadau di-angen.

·         Os oes gennych gwestiwn yna defnyddiwch yr opsiwn codi llaw (raise hand) ac aros i’r staff eich gwahodd i gyfrannu. Mi fydd angen cychwyn y meic (unmute), cyfrannu ac yna tawelu’r microffôn ar ôl i’r sgwrs ddod i ben. Cofiwch rhoi eich llaw lawr (lower hand) yn dilyn ymatebiad y staff.

·         Cofiwch fod pawb yn medru gweld y sgwrs yn posts felly ceisiwch osgoi trafod unrhyw  fanylion personol yn yr ardal hon. Dylai rhieni/ gwarchodwyr e-bostio neu gofyn am alwad ffôn gan yr athrawon os oes angen trafod unrhyw fanylion sensitif.

·         Mae cael cyflenwad o bapur ac offer ysgrifennu / câs pensiliau gerllaw cyn y cyfarfod yn arfer dda.

·         Mae’n bosib y bydd y staff yn gofyn i chi ddiffodd camera (camera off) ar adegau er mwyn sicrhau fod pawb yn medru canolbwyntio ar ran benodol o’r cyfnod ffrydio byw. Bryd arall mi fydd angen cael y camera ymlaen (camera on) er mwyn cyfrannu a rhannu gwaith.

Yn naturiol mae gweithio drwy Teams yn medru fod yn heriol. Cofiwch nad oes angen poeni os nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i gyfrannu’n fyw neu os nad ydych wedi deall un o’r tasgau. Rydym yn gobeithio y bydd staff, disgyblion a rhieni / gwarcheidwaid yn tyfu mewn hyder wrth ymgyfarwyddo a’r ffordd newydd yma o weithio.

Offer cyfrifiadurol – rydym wedi benthyg offer cyfrifiadurol i’r rhai ohonoch oedd wedi gofyn am gymorth yn ystod y tymor. Cofiwch os oes gennych unrhyw anghenion cyfrifiadurol cysylltwch â mi ar unwaith.

Cofion cynnes

M. Lewis