Dewiswch eich iaith

Iaith / Language

Annwyl rieni/warcheidwaid, disgyblion, staff,

 

Mae’r diwrnod ysgol wedi bod yn wahanol iawn ers mis Medi gyda’r disgyblion yn gorfod aros yn eu dosbarthiadau drwy gydol y dydd, mae hyn yn her i gymuned yr ysgol wrth sicrhau fod y plant yn aros ar wahân yn ystod y gwersi, yn ystod egwyl ac yn ystod amser cinio. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrechion arbennig ac i’r staff am weithredu a monitro’r trefniadau mor effeithiol pob diwrnod.

Parent Pay – rwy’n sylwi bod rhai ohonoch wedi cofrestru gyda Parent Pay. Ar hyn o bryd mae’r system yn cael ei defnyddio ar gyfer talu arian cinio. Mae angen i bawb i gofrestru hyd yn oed os ydych chi`n deilwng i gael prydau bwyd am ddim. Yn y dyfodol mi fydd y system yma yn weithredol ar gyfer casglu unrhyw arian ar gyfer yr ysgol megis talu am dripiau ysgol neu unrhyw gostau arall. Hoffwn eich atgoffa felly fod angen i chi gofrestru ar y system gan ddilyn y cyfarwyddiadau a dderbynioch ar ddechrau’r tymor.

Mae’r ysgol yn dilyn y canllawiau o safbwynt sicrhau fod yna ddigon o awyr iach ym mhob dosbarth, mae hyn yn golygu fod ffenestri a drysau’r dosbarthiadau ar agor. Wrth i ni wynebu’r Hydref a’r Gaeaf hoffwn eich atgoffa i wneud yn siŵr fod eich plant yn gwisgo digon o ddillad cynnes yn yr ysgol.

Gwyliau hanner tymor – mi fydd yr ysgol yn cau ar gyfer gwyliau hanner tymor ar ddydd Gwener, Hydref 23ain ac yn ail agor ar DDYDD MAWRTH, Tachwedd 3ydd. Fe fydd y cylchlythyr nesaf ar 1af o Dachwedd. Dymunaf hanner tymor hapus iawn a diogel.

Diolch yn fawr am bob cydweithrediad a chefnogaeth.

Cofion cynnes

M. Lewis

Pennaeth