Annwyl rieni / warcheidwaid, staff a disgyblion,
Diogelwch yr Haul:
1.Gyda'r tywydd poeth daw'r risg o losgi haul felly os gwelwch yn dda sicrhewch fod eich plentyn yn gwisgo digon o eli haul cyn iddo gyrraedd yr ysgol a bod potel yn ei fag i ailymchwyddo os oes angen. (Os oes gan eich plentyn alergedd i fathau penodol o eli haul, rhowch wybod i'r ysgol).
2.Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn dod â het i'w hamddiffyn rhag yr haul.
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwnegol newydd yn dod i rym yng Nghymru ar gyfer rhai grwpiau o ddisgyblion o fis Medi ymlaen. Mae’r ysgol wrthi’n paratoi ar gyfer y newidiadau yma ar hyn o bryd.
Ceir mwy o wybodaeth am hyn yn y dogfennau yn yr atodiadau
Mrs Howells yw’r CADY (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol) yn yr ysgol ac mae croeso i chi i gysylltu gyda hi yn yr ysgol os oes gennych gwestiynau am y newidiadau yma.
Hyfforddiant mewn swydd - Bydd dydd Gwener 2.7.21 yn ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd. Ni fydd yr ysgol yn agored i ddisgyblion.
Bwydlen am wythnos 21.6.21:
Dydd Llun
Cyri cyw iâr reis Bara Naan llysiau
Fflapjac afal Sudd
Dydd Mawrth
Cyw iar wedi grilio Waffls llysiau
Cacen siocled
Dydd Mercher
Cinio selsig
Bisged ceirch / banana a llaeth
Dydd Iau
Pasta pob bara garlleg
Salad ffrwythau
Dydd Gwener
Pysgod Sglodion pys salad
Rholyn sbwng hufen iâ
Symptomau – dylai unrhyw un sydd â symptomau Covid-19 aros gartref ar unwaith, archebu prawf a hysbysu’r ewyd. Mae angen i’r aelwyd gyfan hunanynysu nes bod canlyniad y prawf yn hysbys.
Mae’r symptomau’n cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholled neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas. Gall fod symptomau eraill yn gynnar, fel cur pen, blinder ac gwinegon cyffredinol a phoenau sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn holi i bobl sydd â symptomau ehangach Covid-19 i fynd am brawf.
Mae’r symptomau ehangach hynny’n cynnwys:
- symptomau ysgafn fel annwyd yr haf – gan gynnwys gwddf tost, trwyn yn rhedeg, pen tost
- symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys mya;gia (poenau yn y cyhyrau); blinder llethol; pen tost cyson; trwyn llawn neu’n rhedeg; tisian cyson; gwddef tost a/neu crygni yn y gwddwf, byr o wynt neu gwichian
- teimlo’n gyffredinol yn anhwylus a bod hanes o fod mewn cyswllt gydag achos positif o Covid-19
- Symptomau newydd neu sy’n newid yn dilyn prawf negyddol blaenorol
Mae gwefan Hywel Dda wedi diweddaru eu gwybodaeth ar y ddolen:
…………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………
Neges o`r Amgueddfa Genedalaethol Caerdydd:
Amgueddfa Dros Nos: Y Gofod o Gartref
Gwahoddiad i fwynhau noson arallfydol! Profiad llawn hwyl o’r Amgueddfa i’ch cartref.
Dyma’r cynllun:
- Adeiladu cwtsh Gorsaf Ofod gan baratoi i edrych ar yr Amgueddfa mewn ffordd hollol newydd.
- Ewch tu ôl i’r llenni i'r stordai a’r orielau i ddarganfod y garreg leuad a’r meteorynnau.
- Oes gyda chi’r gallu i hyfforddi fel gofodwr? Crëwch eich jet-pac eich hun a hedfanwch yn ein dosbarth ffitrwydd sy’n hwyl i’r teulu cyfan.
- Beth yw clwb cysgu heb bethau blasus o’r gofod i’w bwyta?! Coginiwch rocky road y lleuad a thanwydd roced i gynnal eich egni drwy’r nos.
- Ymunwch â sioe seryddiaeth a dysgwch sut i ddarganfod cytserau (constellations) yn awyr serennog y nos.
- Setlwch lawr i wylio ffilm cyn gwely – yna gwersyllwch yn eich gorsaf ofod i freuddwydio am arnofio drwy’r Llwybr Llaethog.
- Deffrwch yn gynnar i fwyta brecwast cyn creu eich cerrig lleuad eich hunain gartref.
Tocynnau: £5 [+ ffioedd Eventbrite] i’r teulu cyfan.
- Bydd yr holl ddeunydd a gweithgareddau a gaiff eu darparu ar gyfer y digwyddiad hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)ac eithrio rhai elfennau i'w gadarnhau. Bydd y gweithgareddau hon yn iaith gyntaf y cyflwynwyr, sef Saesneg.
Am fanylion pellach ac i archebu tocynnau:
https://www.eventbrite.co.uk/e/amgueddfa-dros-nosy-gofod-gartref-museum-sleepoverouter-space-from-home-tickets-155669011203?aff=Ysgolion
Trailer: https://youtu.be/zPugSfA6Jgc
Cofion
M. Lewis
Pennaeth