Annwyl Riant/Warcheidwad,


Rydym yn bryderus iawn am ledaeniad Coronafeirws yn ardal Aberteifi. Mae nifer sylweddol o achosion positif  diweddar wedi arwain at nifer uchel iawn o bobl yn cael eu diffinio fel cysylltiadau o achosion positif. Mae gan lawer o'r cysylltiadau hyn symptomau Coronafeirws erbyn hyn ac rydym yn aros am ganlyniadau'r profion.


Mae ysgolion wedi gweithio'n ddiflino i gadw'ch plant yn ddiogel. Mae'r achosion hyn yn gysylltiedig â gweithredoedd y gymuned ac nid â gweithredoedd ysgolion lleol.

Mae tystiolaeth gadarn am ledu cyflym y feirws yn ardal Aberteifi ac mae angen gweithredu ar frys.


Fel Cyngor, rydym heddiw wedi cyfarfod â chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Bwrdd Iechyd Lleol. Rydym wedi penderfynu y bydd yr ysgolion canlynol yn cau o ddydd Llun 23ain Tachwedd tan ddydd Llun 7fed Rhagfyr 2020:


Ysgol Gynradd Llechryd ac Ysgol Gynradd Cenarth, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ysgol Gynradd Aberteifi, Ysgol Gynradd Penparc, Ysgol Gynradd Aberporth, Ysgol Gynradd T. Llew Jones, Bydd eich hysgol yn cysylltu â chi parthed trefniadau dysgu o bell yn ystod y cyfnod hwn.


Nid ydym wedi gwneud y penderfyniad hwn yn ysgafn ac mae'r camau hyn mewn ymateb i'r angen i weithredu'n bendant. Mae hon yn sefyllfa sy'n esblygu'n gyflym a rhaid inni weithredu i ddiogelu cymunedau ein hysgolion, ac yn wir ardal Aberteifi gyfan.


Gofynnwn yn garedig i chi fod yn arbennig o ofalus a gwyliadwriaeth yn ystod yr wythnosau nesaf. Os yw eich plentyn, neu unrhyw aelod o'ch cartref yn teimlo'n sâl, rhaid i chi aros gartref. Bydd angen i chi archebu prawf drwy gysylltu â 119 neu ddefnyddio gwefan https://www.gov.uk/get-coronavirus-test. Rhowch wybod i'ch ysgol eich bod wedi archebu prawf ac o unrhyw ganlyniad.


Fel Cyngor rydym yn parhau â'n trafodaethau gyda phartneriaid allweddol ar unrhyw gamau pellach sydd eu hangen i sicrhau bod y trosglwyddiad cymunedol sylweddol hwn yn cael ei reoli.

Yn gywir

Meinir Ebbsworth                                                Meinir Lewis
Prif Swyddog Addysg                                           Headteacher
Cyngor Sir Ceredigion