Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,
Mi fydd yr ysgol ar gau ar ddydd Llun, Gŵyl Calan Mai 3ydd.
Mi fydd yr Ysgol ar gau ar ddydd Gwener Mai 7fed am Hyfforddiant mewn Swydd.
Gwyliau’r Sulgwyn – Mi fydd yr ysgol yn cau ar ddydd Iau, Mai 27ain ar gyfer gwyliau’r Sulgwyn. Mi fydd yr ysgol yn ail agor ar ddydd Llun, Mehefin 7fed.
Symptomau - dylai unrhyw un sydd â symptomau Covid-19 aros gartref ar unwaith, archebu prawf a hysbysu’r ysgol. Mae angen i'r aelwyd gyfan hunan ynysu nes bod canlyniad y prawf yn hysbys.
Mae'r symptomau'n cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholled neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas. Gall fod symptomau eraill yn gynnar, fel cur pen, blinder ac gwinegon cyffredinol a phoenau sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.
Cwricwlwm Newydd – mae Cymru yn paratoi ar gyfer gweithredu cwricwlwm newydd ac rydym fel ysgol yn gwerthuso ein cwricwlwm presennol ac yn cynllunio profiadau diddorol a chyfoethog ar gyfer y dyfodol. Mae’r cwricwlwm newydd yn pwysleisio pedwar diben;
Rydym eisiau eich cymorth i sicrhau eich bod yn cytuno ar y weledigaeth cwricwlwm ein hysgol –
Nod yr ysgol yw creu cymuned ddysgu hapus, uchelgeisiol a chynhwysol a fydd yn rhan greiddiol o’r ardal o’i chwmpas.
Ein cenhadaeth ar gyfer Ysgol Cenarth yw datblygu ein plant:
• anelu at y cyflawniad uchaf;
• bod yn ddysgwyr gydol oes annibynnol;
• bod yn ymwybodol ac yn falch o'u hunaniaeth Gymreig a'u cymuned.
Os ydych yn teimlo’n greadigol yna hoffwn i chi ddanfon rhai syniadau ataf o safbwynt beth fyddai rhai o’r agweddau y byddech yn hoffi eu cynnwys mewn cwricwlwm delfrydol – cwricwlwm fyddai’n addas i’ch plentyn / plant. Mi fydd hyn yn bwydo ein proses.
E-bostiwch unrhyw gynigion at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. os gwelwch yn dda.
Bwydlen am wythnos 26.4.21:
Dydd Llun
Pasta pob cyw iar hufennog
Cacen fach Het Slic
Dydd Mawrth
Pysgodyn tatw ffa pob
Crymbl Cwstard
Dydd Mercher
Porc rhost
Myffin Sudd
Dydd Iau
Bolognais Cartref
Cwci Siocled Llaeth
Dydd Gwener
Cwn Poeth Sglodion
Iogwrt gyda darnau o ffrwythau ffres
Codi arian: Mae Ysgol Gynradd Cenarth wedi ymuno â'r easyfundraising.Rwyf wedicofrestru'r ysgol gydag ‘easyfundraising’ fel y gallech ein helpu i godi arian i'r ysgol heb unrhyw gost ychwanegol i chi'ch hun.
Gan fod ein digwyddiadau codi arian wedi'u gohirio, mae hwn yn gyfle gwych i barhau i godi arian ar gyfer yr ysgol. Pan fyddwch yn siopa ar-lein, gyda dros 4,100 o'ch hoff fanwerthwyr, gan gynnwys John Lewis & Partners, Amazon, eBay, notonthehighstreet, ac ati, byddwch yn codi rhoddion AM DDIM i Ysgol Gynradd Cenarth.
Dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd i gofrestru , yna gallwch ddechrau defnyddio'r wefan neu ap easyfundraising ar unwaith - siopa ar-lein fel arfer. Bydd hyn yn help enfawr i'r ysgol, heb unrhyw gost ychwanegol i chi'ch hun.
Cofrestrwch am ddim ar:www.easyfundraising.or.uk
Os oes gennych unrhyw bryderon yna cysylltwch â mi ar unwaith.
Cofion cynnes
M. Lewis
Pennaeth