Annwyl rinei/ warcheidwaid,
Diolch yn fawr am bob cydweithrediad wrth i ni barhau i ymateb i her y coronafeirws.
Ar ddiwedd wythnos arall, ysgrifennaf i ddiolch i chi fel rhieni / gwarcheidwaid am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad parhaus wrth i ni geisio ein gorau i gadw ein hysgol mor ddiogel â phosibl a'n disgyblion yn dysgu.
Ar ein ail wythnos o gau, ein nod yw tarfu cyn lleied â phosib ar ddysgu disgyblion a, lle bo hynny'n bosibl, eu galluogi i gadw cysylltiad â'u hathrawon o gartref.
Gweithio yn Teams - rwy’n ymwybodol fod nifer o`r plant wedi gweithio ar y tasgau sydd ar Teams o fewn Hwb ac mae’n amlwg fod y mwyafrif ohono yn cael hwyl arni. Rydym yn awyddus i gynyddu nifer y disgyblion sy’n defnyddio Teams er mwyn cael mynediad i dasgau, danfon a derbyn negeseuon gan yr athrawon a dychwelyd eich gwaith. Mae Teams yn galluogi ni i fod yn fwy rhyngweithiol gyda chi fel teuluoedd. Yn ystod yr wythnos nesaf eto mi fydd yr athrawon yn rhoi rhagor o dasgau penodol yn Teams er mwyn cyfeirio rhagor ohonoch i ddechrau defnyddio’r system hon.
Wrth ddefnyddio Teams, cofiwch;
Posts – mae posts yn Teams yn gyfle i rannu negeseuon gyda phawb yn y flwyddyn yn cynnwys yr athrawon.
Assignments – mae Assignments o fewn Teams yn ffordd i sicrhau taw dim ond chi, athrawon a minnau fydd yn gweld eich gwaith. Dyma’r ffordd orau i gael mynediad at eich tasgau a’u dychwelyd i’r athrawon. Dydy’r plant a rhieni eraill ddim yn gallu gweld y gwaith rydych chi yn eu llwytho yn Assignments. Defnyddir ebyst yn nosbarth Miss Harris.
Fodd bynnag peidiwch â phoeni os nad yw’r system yn gweithio i chi, nid ydym am ychwanegu gofid i deuluoedd yn ystod y cyfnod yma.
Gwyliau’r Nadolig – mi fydd yr ysgol yn cau am 3.30 ar ddydd Gwener, Rhagfyr 18fed ac yn ail agor ar ddydd Mawrth, Ionawr 5ed.
Cofion cynnes,
M. Lewis