Annwyl rieni / warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Rwyn gobeithio bod y tywydd a`r wê yn fwy garedig i chi nac i fi heddiw.
- Mi fydd yr ysgol yn cau ar ddydd Gwener, Mai 28ain ar gyfer gwyliau’r Sulgwyn. Mi fydd yr ysgol yn ail agor ar ddydd Llun, Mehefin 7fed.
- Eisteddfod T – cofiwch fod S4C yn darlledu rhaglenni Eisteddfod T yr Urdd unwaith eto eleni.
- Y Cwricwlwm Newydd – diolch yn fawr iawn am yr adborth a’ch syniadau gwych ar gyfer datblygu cwricwlwm yr ysgol ar gyfer y dyfodol. Gweler mwy o wybodaeth ar y fframwaith y Cwricwlwm Newydd a sut mae gwahanol agweddau yn plethu i’w gilydd ar https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/
Mae croeso i chi ddanfon unrhyw syniadau pellach at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
- Symptomau - dylai unrhyw un sydd â symptomau Covid-19 aros gartref ar unwaith, archebu prawf a hysbysu’r ysgol. Mae angen i'r aelwyd gyfan hunanynysu nes bod canlyniad y prawf yn hysbys.
Mae'r symptomau'n cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholled neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas. Gall fod symptomau eraill yn gynnar, fel cur pen, blinder ac gwinegon cyffredinol a phoenau sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.
- Rydym yn bwriadu agor ar gyfer Clwb Brecwast o 7.6.21 ymlaen am 8.15yb; mae`r cyfleuster yma ar gyfer pob rhiant ond yn enwedig i rai sy'n gweithio ond nodwch ni allwn agor yn gynharach. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r gwasanaeth hwn, anfonwch eich enw ataf Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i gofrestru.
Bwydlen am wythnos 17.5.21:
Dydd Llun
Biff Sawrus pwdin Sir Efrog, llysiau tatw
Cacen fach ‘Het silc’
Dydd Mawrth
Pysgod Tatw, ffa pob
Crymbl Cwstard
Dydd Mercher
Cinio Porc rhost
Myffin Llaeth
Dydd Iau
Bolognes cartref, bara garlleg, llysiau
Bisgedi siocled Sudd
Dydd Gwener
Cŵn poeth, sglodion, salad
Iogwrt
Cofion
M. Lewis
Pennaeth