Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu’ch plentyn yn ôl i’r ysgol. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i’ch diweddaru am nifer o faterion wrth ichi baratoi ar gyfer hynny.
Rwyn ysgrifennu i gadarnhau trefniadau ysgol ym mis Medi yn dilyn canllawiau gweithredu newydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Medi ac ymlaen. Mae mis Medi yn gyfnod i drosglwyddo i fframwaith risg Covid-19 newydd ble fydd gweithredoedd ysgol yn adlewyrchu cyd-destun Covid-19 lleol. Gallwn eich sicrhau mai ein nod fydd gwneud pob penderfyniad yng nghyd-destun darparu amgylchedd addysgol ddiogel a chefnogol i’ch plentyn, a hynny mewn cydweithrediad gyda Chyngor Ceredigion a’r Bwrdd Iechyd Lleol.
Pan fydd eich plant/plentyn yn dychwelyd i’r ysgol ar ddydd Gwener 3ydd o Fedi:
- Nid oes rhaid i staff wisgo gorchudd wyneb tra mewn gwersi. Serch hyn, byddwn yn parchu dymuniad unrhyw aelod staff sydd eisiau parhau i’w gwisgo.
- Bydd gofyn i staff wisgo gorchudd wyneb mewn llefydd torfol prysur.
- Bydd eich plentyn yn parhau mewn grŵp cyswllt dosbarth am wythnosau cyntaf ym Medi, tra ein bod yn ystyried sut mae modd symud yn ddiogel i ledu’r grwpiau cyswllt hwn.
- Bydd gweithdrefnau arferol yr ysgol yn parhau o ran cymryd tymheredd, hylendid dwylo, awyru da.
- Grwpiau cyswllt swigod dosbarth - mi fydd y swigod dosbarth yn parhau ar gyfer wythnosau cyntaf Medi, tan fod adolygiad o’r trefniadau yng nghanol mis Medi; ar wahan i ddosbarthiadau y Bont ac y Ffrydiau.
- Gallwch anfon eich plentyn / plant yn eu gwisg ymarfer corff neu gwisg ysgol ar ddydd Gwener 3ydd o Fedi.
- Bydd disgyblion oed Cyfnod Sylfaen yn parhau i dderbyn llaeth amser egwyl.
- Mae croeso i ddod a ffrwythau/byrbryd o adref.
- Os ydych chi eisiau eich plentyn / plant i ddod i`r Clwb Brecwast, bydd angen i chi rhoi gwybod i mi ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
- Ni fydd y Clwb yn ail agor am y tro, a byddwn yn adolygu’r sefyllfa erbyn canol Medi.
- Gall i`r plant ddod yn eu gwisg ymarfer corff ar ddydd Gwener 3ydd o Fedi neu wisg ysgol: bydd pob dosbarth yn cael gwersi ymarfer corff ar ddydd Gwener a gallen ddod i`r ysgol y neu gwisg ymarfer corff.
- Bydd angen i`ch plentyn / plant dod â chas pensilion.
Amser cychwyn a gorffen
Ni fydd rhieni yn medru dod mewn i’r adeilad gyda’u plant.
Bydd trefniadau gollwng a chasglu yn y bore a’r prynhawn fel a ganlyn:
- Dosbarth y Ffrydiau yn cyrraedd am 8.55yb yn mynd i mewn yn y ffrynt ac allan yn y ffrynt am 12yp.
- Dosbarth y Bont yn cyrraedd am 8.50yb yn y ffrynt ac allan o`r ffrynt am 3.20.
- Dosbarth y Ffynnon yn cyrraedd am 8.45yb trwy drws y Neuadd a Dosbarth y Berllan yn cyrraedd 8.45 ac yn gadael am 3.30.
Bwydlen cinio ar ddydd Gwener 3ydd o Fedi:
Pysgod Sglodion Ffa pob Salad
Hufen ia
Byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa yn gyson, a bydd y trefniadau uchod yn cael eu newid yn unol ag amgylchiadau.
Rydym yn cynllunio’n ofalus ar gyfer gwneud yn siwr bod y profiad o ddychwelyd i’r ysgol yn un cadarnhaol i’ch plentyn. Bydd disgwyl i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol yn nhymor yr Hydref a’r gweithdrefnau presenoldeb arferol yn cael eu dilyn. Os oes gyda chi unrhyw ofidiau neu yr hoffech chi sgwrs bellach mae pob croeso ichi gysylltu gyda ni ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.. Mae nifer o fesuryddion diogelu yn cael eu gweithredu er lles pawb, a byddwn yn ymroi i sicrhau bod profiad dysgu eich plentyn yn ystyrlon a hwyliog a hynny mewn amgylchedd ddiogel.
Diolch o galon ichi fel rhieni / gwarcheidwaid am eich cefnogaeth barhaus, rydym yn ei werthfawrogi’n fawr.
Yn gywir,
Miss M. Lewis
Pennaeth