Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Addasiadau i gyfyngiadau covid-19 – Mi fyddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus ac yn addasu’r trefniadau /swigod os fydd y niferoedd yn codi.
Achosion positif o covid-19 - ni ddylai disgyblion sydd â symptomau covid-19 fynychu’r ysgol. Mi fydd angen parhau i hunan ynysu am 5 diwrnod a chael 2 brawf LFD negyddol cyn dychwelyd.
- Cyfarfodydd Rhieni / Gwarcheidwaid am gynnydd eich plentyn - Mai 9fed, 10fed, 11eg – fe fydd yr athrawon yn cysylltu gyda chi.
- Rhybudd ymlaen llaw – Bydd Ffotograffydd Tempest yn Ysgol Cenarth ar y 18fed o Fai i gynnig ffotograffiau o unigolion, grwpiau a dosbarthiadau i brynu.
- Cymdeithas Rhieni ac Athrawon – os oes diddordeb gennych i ymuno ar dïm, plîs cysylltwch. Cymdeithas Rhieni ac Athrawon / CRhA yw sefydliad sydd â chenhadaeth i wneud yr ysgol yn lle gwell i blant ddysgu ac mae angen tîm arnom i weithio nes y gallwn gyfarfod yn yr ysgol fel Cyfarfod Blynyddol yn yr Hydref.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 02.05.22 |
|
Dydd Llun |
GŴYL Y BANC |
Dydd Mawrth |
Peli cig mewn saws tomato, pasta, bara garlleg llysiau Sgon afal a chwstard |
Dydd Mercher |
Cyw iâr, tatw, llysiau Cacen siocled creinshlyd Sudd |
Dydd Iau |
Pitsa Tatw salsa salad Myffin siocled Llaeth |
Dydd Gwener |
Cyw iâr barbeciw, sglodion moron, salad Jeli ac hufen |
- Gŵyl y Banc Calan Mai – mi fydd yr ysgol ar gau ar ddydd Llun, Mai 2ail.
- Mabolgampau ysgol – Gorffennaf 8fed - Mabolgampau Ysgol a Raffl Hamperi Gwych os yw`r tywydd yn dderbyniol.
- Gwyliau’r Haf – mi fydd yr ysgol yn cau am 3:30yp ar ddydd Gwener, Gorffennaf 15fed.
Mwynhewch eich Gŵyl y Banc Calan Mai.
Cofion cynnes,
M. Lewis