Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,
Casglu mes i helpu i godi arian ar gyfer yr ysgol: eleni gan fod gennym ychydig o goed Derw yn yr ysgol, rydym wedi ymuno ag ymgyrch Miri Mes Cyfoeth Naturiol Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd casglu hadau a helpu i dyfu mwy o goed o hadau a gesglir yn lleol. Rydym yn bwriadu casglu mes yn ystod yr wythnos ar dir yr ysgol. Os oes gennych unrhyw fes neu os gallwch gasglu o goetir gerllaw, byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn dod â nhw i'r ysgol i'w hychwanegu at ein casgliad.
Byddwn yn casglu mes o goed derw Sessile. Bydd angen i`ch plentyn ddod ag esgidiau glaw mewn bag gyda`r enw`r plentyn am yr wythnos.
Bydd y mes sy'n cael eu casglu yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru i dyfu coed brodorol o hadau stoc iach, leol, coed ac wrth annog dysgwyr mawr a bach i fynd allan yn yr awyr iach yn yr hydref a chysylltu â'n hamgylchedd naturiol Cymreig gwych.
Am fwy o wybodaeth ewch at https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/education-learning-and-skills/acorn-antics/?lang=cy
- Brechlyn ffliw – mi fydd y Nyrsys Ysgol yn gweinyddu’r brechlyn ffliw yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Tachwedd 9fed.
- Gwyliau hanner tymor – mi fydd yr ysgol yn cau ar gyfer gwyliau hanner tymor am yr wythnos Hydref 25ain.
- Diwrnod Hyfforddiant Staff – Tachwedd 10fed 2021 - bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion.
- Diwrnod Shwmae S`umae – dathlwn wrth wisgo dillad coch ar 15.10.21 https://spark.adobe.com/post/SLOcuK16cvHaE/
Bwydlen cinio Wythnos 11/10/21:
Dydd Llun
Tsili, reis, llysiau,
Sgon jam hufen
Dydd Mawrth
Grilen cyw iar, tatw, ffa pob, llysiau
Cacen
Dydd Mercher
Cinio Selsig Llysiau
Cwci ceirch Llaeth
Dydd Iau
Pastisho bara garlleg, llysiau
Salad ffrwythau
Dydd Gwener
Pysgod Sglodion salad pys
Rolyn Hufen ia
Cofion cynnes,
Miss M. Lewis
Pennaeth