Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Brechlyn Ffliw: Mae angen dychwelyd eich ffurflen erbyn dydd Llun 20fed o Fedi os gwelwch yn dda – wedi arwyddo gyda chaniatâd neu arwyddwch gyda heb eich caniatâd.
- Neges i Rieni: Gwella eich Cymraeg gyda ni eleni!
Mae dosbarthiadau Dysgu Cymraeg wythnosol yn dechrau wythnos nesaf ledled Ceredigion. Nid yw hi’n rhy hwyr i gofrestru. Mae 50% i ffwrdd - cyrsiau i ddechreuwyr pur!
https://learnwelsh.cymru/ceredigion
Amser cychwyn a gorffen
Trefniadau gollwng a chasglu yn y bore a’r prynhawn fel a ganlyn:
- Dosbarth y Ffrydiau yn cyrraedd am 8.55yb yn mynd i mewn yn y ffrynt ac allan yn y ffrynt am 12yp.
- Dosbarth y Bont yn cyrraedd am 8.50yb yn y ffrynt ac allan o`r ffrynt am 3.10 os nad oes brawd neu chwaer yn hŷn.
- Dosbarth y Ffynnon yn cyrraedd am 8.45yb trwy drws y Neuadd a Dosbarth y Berllan yn cyrraedd 8.45 ac yn gadael am 3.30.
UAC yn annog plant i ddylunio cerdyn Nadolig amaethyddol er budd elusen
Mae disgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Gymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio cerdyn Nadolig ar y thema ffermio ar gyfer cystadleuaeth cardiau Nadolig UAC.
Mae UAC yn gofyn i blant rhwng pedair ac 11 oed i ddylunio golygfa amaethyddol Nadoligaidd ar gyfer ei chardiau Nadolig, a fydd yn cael eu gwerthu i godi arian ar gyfer elusen yr Undeb sef y DPJ Foundation.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Caiff y gystadleuaeth ei rannu’n ddau gategori - yr ymgeiswyr Cymraeg a’r ymgeiswyr Saesneg. Gall y plant ddefnyddio unrhyw gyfrwng i greu eu cardiau, megis creonau, pensiliau lliw, peniau blaen ffelt neu baent i dynnu’r llun, ac mae’n rhaid defnyddio dalen A4 o bapur a’i e-bostio atom ar ffurf jpeg.
“Yr unig amod yw bod yn rhaid iddo fod yn gerdyn Nadolig sy’n dangos golygfa amaethyddol. Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn llwyddiant mawr yn y gorffennol a gobeithio, y gallwn sicrhau cefnogaeth ein hysgolion cynradd ar draws Cymru unwaith eto.”
Bydd enillydd pob categori yn derbyn tocyn anrheg gwerth £30 i’w hunain, pecyn o’r cardiau Nadolig yn dangos eu dyluniad, mynediad un diwrnod am ddim i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2021 er mwyn derbyn eu gwobrau a siec gwerth £50 ar gyfer eu hysgol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener Hydref 29 2021. Mae angen i bob cynnig gynnwys enw, oedran, dosbarth, enw’r ysgol a chyfeiriad cartref y disgybl a’i e-bostio at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
WLGA / CLILC - Diodydd iach mewn ysgolion cynradd:
Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol ac ysgolion i hyrwyddo diod iach mewn ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru’n argymell mabwysiadu dull ysgol gyfan.
Gellir gosod cyfyngiadau ar ddiodydd y mae plant yn dod â hwy i’r ysgol i’w hyfed os yw’r awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’r ysgol yn penderfynu bod hynny’n briodol. Mae bron pob un o’r ysgolion cynradd yng Nghymru’n gweithredu’r rheolau hyn:
- dim ond dŵr ar ddesgiau, neu wrth law, yn y dosbarth; a,
- dim ond dŵr a llaeth yn ystod amser egwyl.
Dylai ysgolion greu amgylchedd a diwylliant lle mae’n beth arferol a hawdd i blant yfed yn iach. Mae staff yr ysgol, ynghyd â rhieni/gofalwyr, yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddatblygu arferion yfed iach gydol oes, drwy rannu negeseuon cyson a modelu rôl.
Dŵr a llaeth yw’r unig ddiodydd y dylai plant ysgol gynradd eu hyfed yn ystod amser egwyl am y rhesymau canlynol:
- mae’n helpu plant i ddod i arfer ag yfed dŵr gydol y dydd ac yn dal ati i weld dŵr fel y ffordd orau o hydradu pan maent yn oedolion;
- mae dŵr yn torri syched ac yn hawdd i plant gael gafael arno yn yr ysgol a gartref;
- mae llaeth yn ffordd dda o gael protein, calsiwm a fitaminau a mwnau eraill;
- nid oes gan ddŵr galorïau ychwanegol, sy’n helpu i gadw pwysau iach;
- mae yfed dŵr yn medru helpu i atal amrywiaeth o broblemau iechyd fel cur pen a phroblemau â’r bledren a’r perfedd;
- nid yw dŵr a llaeth yn gwneud niwed i ddannedd, yn wahanol i sudd ffrwythau a diodydd meddal sy’n cynnwys ‘siwgrau rhydd’ a/neu felysyddion artiffisial; ac,
- mae sgwosh a dŵr â blas, gan gynnwys rhai heb siwgr, yn annog plant i hoffi pethau melys ac nid ydynt yn cynnig unrhyw faeth.
Bwydlen cinio ar wythnos 13/9/21:
Dydd Llun
Cig eidion sawrus
Cacen / ffrwythau
Dydd Mawrth
Pysgod
Iyogwrt / ffrwyth
Dydd Mercher
Cinio rhost porc
Myffin Llaeth
Dydd Iau
Spagetti Bolognes
Bisged Sudd
Dydd Gwener
Cwn poeth sglodion
Crymbl cwstard
Diolch o galon ichi fel rhieni / gwarcheidwaid am eich cefnogaeth barhaus, rydym yn ei werthfawrogi’n fawr.
Yn gywir,
Miss M. Lewis
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Pennaeth