Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Covid-19 – Achosion positif o covid-19 - ni ddylai disgyblion sydd â symptomau covid-19 fynychu’r ysgol. Mi fydd angen parhau i hunan ynysu am 5 diwrnod a chael 2 brawf LFD negyddol cyn dychwelyd.
- Llywydd newydd - Llongyfarchiadau mawr i Mrs Howells am ddod yn Lywydd i UCAC.
- Bwlio - Wrth ddarparu amgylchedd diogel i blant, mae achos o fwlio yn cael ei gymryd o ddifrif ac ymdrinnir ag ef yn unol â'n polisi gwrth-fwlio. (gweler amgaeedig)
Fel ysgol rydym yn falch o gymryd rhan yn yr Wythnos Gwrth-fwlio flynyddol, wythnos Seiber-fwlio, gweithdai gyda'r heddlu, amrywiaeth o weithgareddau, amseroedd cylch a chynulliadau i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant a derbyn, a thynnu sylw at effaith bwlio a'r rôl rydym i gyd yn ei chwarae wrth ei atal. Ategir hyn gan ein cwricwlwm A.B.Ch. lle mae plant yn dysgu gwerth amrywiaeth, gwahaniaeth a derbyn, sy'n darparu gwasanaethau wedi'u targedu a phrynhawniau â thema i fynd i'r afael ag anghenion a phynciau penodol.
Os oes gennych bryder am fwlio
Gall aelodau o gymuned yr ysgol roi gwybod am achosion o fwlio drwy:
Disgyblion:
Defnyddio cofrestr Emosiynol yn yr ystafell ddosbarth i ddangos i'r aelod o staff eu bod wedi cynhyrfu a bod angen cymorth arnynt.
Sgyrsiau gyda'r athro dosbarth neu aelod arall o staff y gellir ymddiried ynddo.
Defnyddio blwch becso y dosbarth.
Rhieni / Gwarcheidwaid:
Sgwrs wyneb yn wyneb ar amseroedd gollwng / casglu.
Llythyr neu e-bost wedi'i gyfeirio at athro dosbarth.
Os nad yw athro/athrawes dosbarth y plentyn ar gael neu os bydd honiad difrifol, gall rhieni hefyd gysylltu â Mrs Howells a/neu M. Lewis gan ddefnyddio'r dulliau a amlinellir uchod.
Sgwrs ffôn.
Anogir rhieni i roi gwybod i'r ysgol am unrhyw bryderon yn y lle cyntaf yn hytrach na cheisio mynd i'r afael â digwyddiadau eu hunain.
- Nofio – mae gan blwyddyn 1, 2 a 3 pythefnos arall o nofio.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 13.06.22 |
|
Dydd Llun |
Cyri cyw iar Reis Bara Naan Llysiau Fflapjac Afal |
Dydd Mawrth |
Grilen cyw iar waffls ffa pob Llysiau Cacen Haf |
Dydd Mercher |
Cinio Selsig Cwci ceirch Llaeth |
Dydd Iau |
Pastisho Bara garlleg pys |
Dydd Gwener |
Bysedd Pysgod (cod) Sglodion Salad Cymysg Rolyn sbwng Hufen ia |
- Diwrnodau Pontio / Wythnos ar gyfer blwyddyn 6:
- Ysgol Uwchradd Preseli 20.6.22 – 24.6.22.
- Ysgol Uwchradd Aberteifi ac Ysgol Uwchradd Bro Teifi – 30.6.22 ac 1.7.22;
- Ysgol Uwchradd Emlyn – 24.6.22 ac 8.7.22.
- Diwrnod Hwyl i flwyddyn 5 yn Ysgol Uwchradd Aberteifi – 12.7.22.
- Mynediad - Gall pob plentyn sydd ddim yn mynd i Glwb Brecwast defnyddio`r drws
y ffrynt am fynediad i`r ysgol os gwelwch yn dda.
- Taith Ddysgu Rhieni a Phlentyn – gwahoddir rhieni / gwarcheidwaid i ddod i'r
ysgol i bori a siarad drwy waith ysgol eich plentyn; nodwch dyddiadau'r i`ch dosbarth
ond os oes brodyr / chwiorydd o ddosbarthiadau eraill gallwch hefyd weld gwaith nhw ar yr un diwrnod:
- Mehefin 28ain:
Dosbarth Y ffrydiau (disgyblion rhan amser 11.00 – 12.00 Llawn amser 1pm)
Dosbarth y Ffynnon
Dosabrth y Gorlan
- Mehefin 29ain:
Dosbarth y Berllan
Dosbarth y Bont
- Diwrnod hyfforddiant mewn swydd – bydd yr ysgol ar gau i blant ar 4ydd o Orffennaf.
- Mabolgampau ysgol a Raffl Hamperi Gwych 5ed o Orffennaf –
Mabolgampau a Hamperi Gwych os yw'r tywydd yn dderbyniol,
Gorffennaf 12fed os bydd rhaid newid y dyddiad.
- Trip ar gyfer dosbarthiadau blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 / Miss Williams a
Mrs Hughes ar y 13eg o Orffennaf.
Trip ar gyfer y Cyfnod Sylfaen sef dosbarthiadau Mrs Howells',
Miss Harris a Miss Waters ar 8fed o Orffennaf. Rhagor o wybodaeth i ddilyn.
- Noson Bant a Chi Blwyddyn 6 ar 14eg o Orffennaf. Mwy o fanylion i ddilyn.
- Gwyliau’r Haf – mi fydd yr ysgol yn cau am 3:30yp ar ddydd Gwener, Gorffennaf 15fed.
- Cystadleuaeth Oriel Theatr Mwldan - Gwahoddwyd i`r disgyblion i greu portread o’u hoff gymeriad ym myd y ffilmiau. Arddangosir gwaith y disgyblion yn y Theatr Mwldan o 10/06/22 - 16/06/22 ac yn instagram @orielmwldan.
Cofion cynnes,
M. Lewis