Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

  • Apêl Y Groes Goch - Codwyd £160 tuag at Apêl y Groes Goch. Diolch yn fawr i bawb am eich haelioni.

 

  • Gwersi Nofio - Pleser yw eich hysbysu y bydd gwersi nofio yn ail-ddechrau ar 17eg Mawrth am 6 wythnos i flynyddoedd 4, 5 a 6 Dosbarth y Berllan / Mrs Hughes a gofynnir am gyfraniad o £10 am y bloc am gost y bws. Mae dosbarthiadau nofio felly wedi'i gapio ar 30 o ddisgyblion fesul ysgol yna cynigir y 6 wythnos ganlynol i weddill yr ysgol. 

Fe fydd angen i’r disgyblion ddod a gwisg nofio addas / towel / gogls - os ydy’r disgyblion yn dymuno, mewn bag ar gyfer y weithgaredd yma.

  • Gwyliau’r Pasg – mi fydd yr ysgol yn cau ar gyfer gwyliau’r Pasg ar ddydd Gwener, Ebrill 8fed ac yn ail agor ar ddydd Llun, Ebrill 25ain. Fe fydd hyfforddiant mewn swydd ar ddydd Gwener 6ed o Fai ac bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion.
  • Blwyddyn 6 trafnidiaeth - Er mwyn gwneud cais am gludiant ysgol i`r Ysgol Uwchradd, llenwch y ffurflen gludiant ganlynol -https://forms.office.com/r/Uv6fijbw7h?lang=cy-GB erbyn y 08/04/2022.  Os oes gennych unrhyw ymholiad neu anhawster, cysylltwch â'r Uned Cludiant Corfforaethol ar 01545 570 881 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

                   

                          

Bwydlen am ginio am yr wythnos 14.3.22

Dydd Llun

Grilen cyw iar, waffls, ffa pob,

Cacen het slic

Dydd Mawrth

Cawl, bara

Crymbl a chwstard

Dydd Mercher

Cinio rhost cyw iar

Bisgedi Llaeth

Dydd Iau

 Peli biff, pasta

Rolyn sbwng hufen ia

Dydd Gwener

Pysgod Sglodion llysiau salad

Cacen siocled Saws gwyn

Cofion cynnes,

M. Lewis

Pennaeth