Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Sgwrs am gynnydd: Rydym yn awyddus iawn i rannu gwybodaeth a chael sgwrs gyda chi am gynnydd eich plant. Oherwydd cyfyngiadau COVID-19 byddwn eto eleni yn cynnal cyfarfod rhieni dros y ffôn neu dros Teams. Bydd pob sgwrs tua 5 munud. Gall apwyntiadau gyrraedd eich ebyst 'Junk', fe'ch cynghorir i wirio.
- Gweithgareddau Diwrnod Plant Mewn Angen 19.11.21 - Dewch i fy helpu i godi arian i Blant Mewn Angen!
Cystadleuaeth Cartref—Creu Arth Pudsey—unrhyw gyfrwng:
Gwisgo lan fel Arth Pudsey neu Blush neu rhywbeth smotiog;
Gweithgaredd rhedeg noddedig ar y smotyn.
Gofynnir i chi gasglu arian oddi wrth teulu a ffrindiau os gwelwch yn dda.
Dychweler ffurflen noddi erbyn 18.11.21.
- Cwricwlwm i Gymru: Yn Ysgol Cenarth rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig. Rydym yn croesawu eich barn. Gan ein bod yn gweithio ar y Cwricwlwm newydd yng Nghymru, byddem yn gwerthfawrogi adborth agored a gonest yn fawr iawn. Diolch.
https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?
id=Ug4_TzS3ZEGUCRtgHRR5k9VKttFG7BNIuL5Tp0WSZc1UMEJKVlpSRkJPSVUwSlBDTlo1Tk45N0w2Sy4u
- Darllen adref: Hoffwn eich atgoffa i ddarllen gyda’ch plentyn adref yn ystod yr wythnos, os gwelwch yn dda. Mae’n hynod o bwysig eu bod nhw’n ymarfer eu sgiliau darllen gyda chi adref er mwyn i ni gyfoethogi’r sgiliau yma yn y dosbarth.
- Cylchgrawn lliwgar, llawn hwyl i blant rhwng 3 a 7: Ymunwch â seren y cylchgrawn, Wcw, a’i ffrindiau Peppa Pinc, Sali Mali, Rwdlan, Ben Dant, a Dewin a Doti wrth iddyn nhw dy dywys di drwy casgliad gwreiddiol o straeon; posau a gweithgareddau; cystadlaethau; jôcs
£25 am flwyddyn.
Bydd y cylchgrawn yn cael ei anfon at eich cartref. Er mwyn derbyn rhifyn Rhagfyr 2021 bydd angen archebu cyn 24ain Tachwedd..
- Gwybodaeth Pwysig i Rieni disgyblion Blwyddyn 6: Gan bod eich plentyn fod dechrau addysg uwchradd ym Medi 2022, bydd angen i chi wneud cais am le mewn ysgol erbyn 17 Rhagfyr 2021.
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion trwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: Derbyniadau Ysgol.
Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion, yna gallwch ymweld â’u gwefannau: Aberaeron, Aberteifi , Bro Pedr, Bro Teifi, Henry Richard, Penglais a Penweddig.
Os ydych chi'n penderfynu gwneud cais i ysgol mewn sir arall yna gwnewch gais i'r Sir honno.
Sicrhewch eich bod wedi cwblhau'ch cais erbyn 17 Rhagfyr 2021. Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried yn rhai hwyr ac efallai y bydd hyn yn cael effaith ar p’un ai ydych yn cael lle yn yr ysgol o'ch dewis. Noder y byddwch ond yn cael lle yn yr ysgol o’ch dewis os oes lleoedd ar gael yn yr ysgol honno.
Mae rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau derbyn a'r rheoliadau i'w gweld yma: Gwybodaeth i Rieni. Os hoffech gael copi papur yna cysylltwch â’r Swyddog Derbyniadau (manylion isod).
TRAFNIDIAETH YSGOL
Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i ddisgyblion sy'n cael eu derbyn i ysgol o ganlyniad i rieni yn penderfynu dewis ysgol nad yw'r ysgol addas agosaf. Fe'ch cynghorir i ystyried y goblygiadau trafnidiaeth cyn penderfynu ar eich dewis o ysgol.
Bydd gwybodaeth bellach ar sut i wneud cais am gludiant ysgol yn cael ei ddanfon at rieni erbyn diwedd Ionawr 2022.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Derbyniadau Ysgol os bydd angen cymorth pellach arnoch. Gweler y manylion cyswllt isod.
Cheryl Evans. Swyddog Derbyniadau Ysgol,
Gwasanaeth Ysgolion, Cyngor Sir Ceredigion County Council, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE
*Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. (: 01545 570881
Dydd Llun
Peli cig, pasta, saws tomato, llysiau
Sbwng Hufen Ia
Dydd Mawrth
Grilen cyw iar, wafflau, ffa pob, llysiau
Cacen het
Dydd Mercher
Cinio cyw iar
Bisged Perffro Ffrwyth Llaeth
Dydd Iau
Cael bara
Crymbl a chwstard
Dydd Gwener
Pysgod sglodion llysiau
Sbwng siocled Saws gwyn
Cofion cynnes,
Miss M. Lewis
Pennaeth