Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Dyma ni wedi cyrraedd wythnos olaf y flwyddyn academaidd. Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur iawn gyda nifer o weithgareddau a digwyddiadau. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb am eich cefnogaeth a`ch cydweithrediad dros y flwyddyn.
- Dymunwn y gorau i ddisgyblion blwyddyn 6 gan ddymuno’r gorau iddynt yn yr ysgolion uwchradd ac i’r dyfodol. Gobeithio bydd gan bob un atgofion melys iawn o’u haddysg gynradd yn Ysgol Cenarth: y cyfeillgarwch, y staff, a’r holl brofiadau arbennig yn ystod eu cyfnod yma. Edrychwn ymlaen at glywed eich hanes a llwyddiannau yn y dyfodol.
- Hoffwn estyn diolch enfawr i holl aelodau’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am eu gwaith dros y tymor yma. Diolch o galon hefyd i bawb gefnogodd ein hymdrechion i godi arian i’r Ysgol.
- Prosiect Cynefin - Dyma ddolen ar eich cyfer: https://drive.google.com/file/d/1m-b1pyGqQvO51PgxMcHk6f38V7miStMC/view?usp=sharing
- Prydau Bwyd am Ddim: O fis Medi 2022, mi fydd plant Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn cael prydau ysgol am ddim yn awtomatig. Erbyn 2024, bydd pob plentyn ysgol gynradd gwladol yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim.
Diolch i bawb sydd eisoes wedi llenwi’r ffurflen berthnasol ond os nad ydych, dilynwch y ddolen hon a’i chwblhau cyn 8 Awst 2022: https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=Ug4_TzS3ZEGUCRtgHRR5k3MLGECnr-NNrDdHlpJqSFhUMjFSSks3VThVUFpaVUhNN0QwU0NaWU9aMy4u
Cwblhewch hi hefyd i nodi a fydd eich plentyn yn dod â phecyn cinio yn lle. Byddwn yn cymryd y bydd eich plentyn eisiau cinio ysgol am ddim os na fyddwn yn derbyn ffurflen. Mae'n bwysig nodi unrhyw geisiadau dietegol neu alergeddau ar y ffurflen.
NODER….
Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau a amlinellir isod, dylech gofrestru ar gyfer “cinio ysgol am ddim” drwy’r Awdurdod Lleol oherwydd efallai y bydd gennych hawl i grantiau fel gwisg ysgol (dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth ar GDD - Mynediad)
Mae buddion cymhwyso yn cynnwys;
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- yr elfen warantedig o Gredyd Pensiwn
- Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl hefyd i Gredyd Treth Gwaith ac sydd ag incwm gros blynyddol o ddim mwy na £16,190)
- Credyd Treth Gwaith dilynol - a delir am 4 wythnos ar ôl i chi beidio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol - os gwnewch gais ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018 rhaid i incwm eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn (ar ôl treth a heb gynnwys unrhyw fudd-daliadau a gewch)
Gall plant sy'n derbyn y budd-daliadau hyn yn uniongyrchol, yn hytrach na thrwy riant neu warcheidwad, hefyd gael prydau ysgol am ddim.
Sut i gofrestru
Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau a restrir uchod gallwch gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim drwy fynd ihttps://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/prydau-ysgol-am-ddim/
Os oes gennych blentyn hŷn yn yr ysgol gynradd sydd eisoes yn cael pryd ysgol am ddim yna mi fydd yn parhau i’w dderbyn.
- Neges am drafnidiaeth i rieni / warcheidwaid blwyddyn 6:
Rydym ar hyn o bryd yn prosesu ceisiadau am docynnau teithio Ysgolion ac rydym yn gobeithio eu cael I’r Ysgolion Uwchradd erbyn dechrau tymor, er hynny efallai bydd peth oedi ac os fydd oedi I’w dosbarthu bydd eich plentyn dal yn gallu defnyddio’r bws sydd wedi ei glustnodi drwy ddangos yr ebost cadarnhad yr ydych eisioes wedi dderbyn neu fe fyddwch yn derbyn gydag enw’ch plentyn a rhif y daith arno tan gewch y tocyn teithio.
Os ydych wedi gwneud eich cais cyn ddiwedd Mis Mai, dylech fod wedi derbyn ebost yn cadarnhau eich manylion teithio. Os na fyddwch wedi derbyn ebost gennym erbyn diwedd Gorffennaf, cysylltwch a Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Rydym wrthi yn asesu ceisiadau wnaed ar ôl Mis Mai a dylech dderbyn manylion pellach erbyn diwedd mis Awst.
Os nad ydych wedi gwneud cais eto ac am ddefnyddio bws Ysgol bydd angen I chi neud mor gynted a phosibl er mwyn I ni asesu eich cais – ni ddylai disgyblion drafaelu ar y bws ym Mis Medi tan fyddwch yn derbyn cadarnhad.
Mae’r ffurflen gais a manylion ychwanegol I’w gael drwy glicio ar y linc yma https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/cludiant-ysgol-coleg/
- Neges gan PTA – "Dros y 4 wythnos diwethaf mae'r PTA wedi bod yn brysur yn trefnu a chynnal ein Ffair haf, gan roi hufen iâ ar ddiwedd tymor i'r disgyblion a chyflwyno hwdis 2022 personol i'n blwyddyn chwech. Yn olaf, hoffai`r CRhA ddymuno'r gorau i flwyddyn 6 ar gyfer cam nesaf eu taith a gobeithio y bydd pawb yn cael gwyliau haf llawn hwyl a phleserus. "
- Cystadleuaeth Hunlun Mistar Urdd
Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd, mae Mainc Mistar Urdd yn teithio i amryw o leoliadau ledled Cymru a hyd yn oed i’r Gemau Gymanwlad ym Mirmingham! Mae’n cychwyn ei daith heddiw ar Yr Wyddfa!
Mae cyfle i chi ennill ymweliad gan Fainc Mistar Urdd i’ch ysgol, sefydliad neu elusen am wythnos yn yr Hydref!
Sut i gystadlu? Tynnwch hunlun neu recordiwch fideo byr steil TikTok ohonoch ar y fainc a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #HunlunMistarUrdd.
Mi fyddwn yn rhannu eich lluniau a’ch fideos ar ein cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â thudalen y fainc ar ein gwefan.
Mae amserlen y fainc ar gael ar y wefan a cadwch lygad am ddiweddariadau neu newidiadau i’r amserlen / lleoliadau.
Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu datgelu ddiwedd mis Medi.
Diolch am gefnogi’r Urdd, a phob lwc!
Ewch draw i’n gwefan am fwy o wybodaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gystadleuaeth cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
- Tymor newydd – fe fydd yr ysgol yn agor ar ddydd Llun, Medi 5ed.
- Gwyliau Haf hapus i bawb.
Cofion cynnes,
M. Lewis