Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

  • Miri Mes - Mae’r disgyblion wedi bod yn brysur iawn yn chwilio am fes ar dir yr ysgol ond yn anffodus mae’n debyg, mae yna ddiffyg mes eleni am nifer o resymau ar draws y wlad.  Da iawn i’r disgyblion a aeth i chwilio am fes wythnos ddiwethaf a gobeithio bydd hi’n well flwyddyn yn 2022.
  • Brechlyn ffliw – mi fydd y Nyrsys Ysgol yn gweinyddu’r brechlyn ffliw yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Tachwedd 9fed.
  • Gwyliau hanner tymor – mi fydd yr ysgol yn cau ar gyfer gwyliau hanner tymor am yr wythnos Hydref 25ain.
  • Diwrnod Hyfforddiant Staff – Tachwedd 10fed 2021 bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion.

ShwmaeSumae

  • Diwrnod Shwmae Su`mae:   Diolch am ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae yn Ysgol Cenarth a diolch yn fawr am y cerrig creadigol a gosodwyd ar lwybr yr ysgol.

Cheerleading Cymraeg

 

Bwydlen cinio Wythnos 18/10/21:

 

Dydd Llun

Pitsa salad pasta salsa llysiau

Myffin siocled Llaeth     

 

Dydd Mawrth

Peli cig, saws tomato, pasta llysiau

Sgon afal cwstard

 

Dydd Mercher

Cinio rhost cyw iar

Cacen siocled creisionllyd  Sudd    

 

Dydd Iau

Pysgod Tatw ffa pob llysiau

Melba Eirin wlanog

 

Dydd Gwener

Cyw iar wedi`I lapio, sglodion, moron wedi`I gratio, salad

Jeli a ffrwyth   

 

Cofion cynnes,

Miss M. Lewis     

Pennaeth