Annwyl rieni / warcheidwaid, 

Yr wyf yn falch i rannu gyda chi am y sefyllfa bresennol gyda'r parcio ym maes parcio'r ysgol. Fel y gwyddoch mae ardal y maes parcio yn brysur iawn oherwydd y cynnydd yn nifer y disgyblion yn yr ysgol. Mae'r Sir, yr ysgol a'r corff llywodraethu wedi bod mewn trafodaethau cyson gydag adrannau perthnasol o fewn yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys tîm Iechyd a Diogelwch Ceredigion i drafod opsiynau y gellir eu gweithredu i wneud ardal y maes parcio'n fwy diogel.

Felly bydd Sir yn darparu cymorth o ymgynghorydd allanol i ddatblygu'r cynllun i ymestyn y maes parcio, creu bwlch dwyffordd; darparu llinellau tarmac a pharcio. Mae cynllun yn cael ei ddatblygu a byddwn mewn sefyllfa gadarnhaol i rannu'r cynllun gyda chi maes o law.

Fel ysgol, byddwn yn anelu at gadw pawb yn ddiogel.

Yn gywir

Chris James

Cadeirydd y Llywodraethwyr.