Llythyr o'r Pennaeth 20/12/21
Annwyl rieni / warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Er mwyn rhoi amser i ysgolion asesu eu capasiti staffio a rhoi'r mesurau angenrheidiol ar waith i gefnogi dychweliad dysgwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi dau ddiwrnod cynllunio i bob ysgol ar ddechrau'r tymor nesaf (5ed a 6ed Ionawr 2022). Ni fydd ysgolion yn darparu unrhyw ddysgu ar-lein/cyfunol yn ystod y dyddiau hyn. Bydd disgyblion ysgolion Ceredigion yn dechrau nol i’r ysgol ar ddydd Gwener 7fed Ionawr 2022. Bydd taliadau/talebau yn parhau i'r teuluoedd hynny sydd â hawl i ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i'w plant.
Yn dibynnu ar gyd-destun Covid, mae'n bosibl y gwelwn newidiadau yn y ffordd y mae ysgolion yn gweithredu pan fyddant yn dychwelyd ym mis Ionawr. Byddwn yn parhau i asesu'r sefyllfa mewn cydweithrediad â’r Awdurdod Lleol, Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddwn yn rhannu unrhyw ddiweddariadau perthnasol gyda chi fel y bo'n briodol.
Mae hon yn sefyllfa sy'n esblygu'n gyflym ac rydym yn eich annog i gymryd gofal ychwanegol i gadw eich hunain a'r rhai o'ch cwmpas mor ddiogel â phosibl.
- Rydym yn gobeithio ddechrau Clwb ar ôl Ysgol ym mis Ionawr pan fydd asesiadau risg wedi cael ei wneud a gofynnaf i chi ar ddechrau'r tymor i gofrestru os oes gennych ddiddordeb.
- Diolch enfawr i'r staff am y gofal a'r addysg y maent wedi'u darparu dros y flwyddyn. Diolch hefyd i’n disgyblion bendigedig ni. Maent wedi bod yn brysur iawn yn paratoi`r sioe.
Diolch i bawb am eu cyfraniadau am wisgoedd i'n sioe a'r staff am ei gwaith caled wrth baratoi plant. Hefyd diolch i Mr Chris James am gyfieithiad o'r sioe.
- Daw`r linc i`r perfformiadau`r plant nes ymlaen.
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru -
http://ysgolcenarth.cymru/e1ffae33-7a8c-4cc3-b926-18fbfc5507cf" alt="image003.jpg" width="260.5" />
Gwahoddiad arbennig i fwynhau noson yn yr Amgueddfa yr holl ffordd o adref.
Dyma fydd yn digwydd:
- Adeiladu nyth a pharatoi i weld yr Amgueddfa mewn ffordd hollol wahanol.
- Archwiliwch Cymru trwy'r oesoedd yn ein Oriel rhithwir Esblygiad Cymru.
- Dweud helo wrth rai o’r deinosoriaid cyfeillgar sy’n crwydro’r adeilad.
- Beth fyddi di am y noson – T. Rex neu Triceratops? Beth am greu masg deinosor dy hun!
- Mwynhau ffilm cyn gwely, cyn gwersylla yn dy nyth deinosor a breuddwydio am fyd Jwrasig.
- Dihuno’n gynnar am frecwast ac ymuno â dosbarth yoga i’r teulu cyfan.
Gwybodaeth Bwysig:
- Digwyddiad ar-lein yw hwn i chi ei fwynhau adref. NID yw tocynnau’r digwyddiad hwn yn docynnau i ymweld yn y cnawd â Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
- Digwyddiad ar gyfer plant 6-12 oed yw hwn.
- Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw ond bydd yn cael ei ddangos fel pe bai’n fyw. Rydyn ni’n argymell eich bod yn dilyn y rhaglen yn ei threfn, ond gallwch fwynhau’r gweithgareddau yn eich amser eich hun hefyd.
- Archebwch 1 tocyn ar gyfer pob grŵp neu deulu. Gofynnir i chi ddarparu enwau’r sawl sy’n mynychu wrth gofrestru.
- Bydd yr holl ddeunyddiau a gweithgareddau* ar gyfer y digwyddiad hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
- Mae cyfieithiadau BSL ar gael ar gyfer yr holl gynnwys fideo. Cofiwch ddewis y tocyn cywir wrth archebu.
Tocynnau: £5 [+ ffioedd Eventbrite] i’r teulu cyfan.
Mae ein digwyddiadau ar-lein yn gwerthu’n gyflym – felly cyntaf i’r felin!
Am fanylion pellach ac i archebu tocynnau:
https://www.eventbrite.co.uk/e/amgueddfa-dros-nos-deinos-gartref-museum-sleepover-dinos-at-home-tickets-209289248777?aff=schoolsinwales
……………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………..
Hoffwn ddiolch i chi am eich amynedd ac eich cydweithrediad parhaus. Dymuniadau gorau i chi a’ch teulu dros y Nadolig.
Os oes gennych unrhyw bryderon yna cysylltwch â mi ar unwaith.