Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Clwb Brecwast - Fe fydd clwb brecwast yn dechrau am 8yb ac nid yn gynharach ar ol hanner tymor ym mis Tachwedd.
- Clwb ar ol ysgol – Mae trefniadau yn gael ei wneud i baratoi`r Clwb ar ol Ysgol i agor ym mis Ionawr. Rydym yn anelu at glwb ar ol ysgol ar bob dydd ac adolygwn dros hanner tymor mis Chwefror. Fe fydd rhagor o fanylion ym mis Tachwedd.
- Neges o`r Heddlu: Yr wythnos yma mae Heddluoedd a Gwasanaethau Tan Cymru yn lansio eu hymgyrch ddiogelwch Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt flynyddol.
Maent yn gofyn i bawb feddwl am y ffordd y maent yn dathlu Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt ac i barchu eich gilydd, diogelu’r gwasanaethau brys, a mwynhau’n ddiogel.
Mae cadw’n ddiogel a pheidio â rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys yn bwysig.
Cliciwch y linc isod er mwyn gwrando ar y negeseuon diogelwch.
- Brechlyn ffliw – mi fydd y Nyrsys Ysgol yn gweinyddu’r brechlyn ffliw yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Tachwedd 9fed.
- Diwrnod Hyfforddiant Staff – Tachwedd 10fed 2021 bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion.
- Holiadur Llywodraeth - A oes digon o ofal plant ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch yn eich ardal - boed ar cyn neu ar ôl ysgol neu yn y gwyliau? .Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich profiad o ddod o hyd i ofal plant addas gan y bydd hyn yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Arolwg ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n defnyddio gofal plant yng Nghymru (smartsurvey.co.uk)
- Gweithgareddau Hanner Tymor Chwaraeon a Chelfyddydau:
Mae adran chwaraeon yr Urdd yn cynnig gweithgareddau chwaraeon hanner tymor i blant cynradd Ceredigion ar draws tri lleoliad gwahanol. AM DDIM! Nifer cyfyngedig, cyntaf i’r felin.
Aberaeron 25-26/10/21 9yb-12yp
Llandysul 27/10/21 9yb-3:30yp
Tregaron 28-29/10/221 9yb-3:0yp
- Cystadleuaeth Cyngor Llyfrau Cymru:
EISIAU ENNILL PENTWR O LYFRAU I’R YSGOL? ANFONWCH Y LLUNIAU GAN GYNNWYS ENW’R PLENTYN, OED AC ENW’R YSGOL DRAW AT:
GWLEDD Y NADOLIG,
CYNGOR LLYFRAU CYMRU,
CASTELL BRYCHAN,
ABERYSTWYTH.
CEREDIGION.
SY23 2JB
DYDDIAD CAU 1.12.21
- Hysbyseb Cwrs Coginio Ar-lein:
- Neges o Amgueddfa Cymru:
Mae’r Nadolig yn nesáu, ac mae’r corachod drygionus yn brysur yn paratoi at y diwrnod mawr... Mae cymaint i’w wneud, ac maen nhw angen eich help!
Ymunwch â’r corachod, Siân Corn, a Siôn Corn ei hun, am brynhawn llawn o hwyl yr ŵyl. A’r cyfan o gysur eich cartref!
Dyma sydd ar y rhestr eleni:
- Mae Siôn Corn WRTH EI FODD â bisgedi sinsir! Bydd Siân Corn yn y gegin yn barod i rannu ei rysáit arbennig â chi.
- Dysgwch fwy am rai o draddodiadau Nadoligaidd gwych Cymru.
- Ymunwch â galwad fideo fyw i gwrdd â cheirw go iawn mewn Coedwig Gudd yn y Lapdir.
- Gweddïo am eira? Ymunwch â’r corachod yn eu gweithdy i greu plu eira papur, a globau eira.
- Ymunwch â ni i ganu rhai o hoff ganeuon yr ŵyl.
- Ymlaciwch o flaen y tân i gael stori gan Siôn Corn.
Digwyddiad ar-lein yw hwn i chi ei fwynhau adref. NID yw tocynnau’r digwyddiad hwn yn docynnau i ymweld yn y cnawd â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Digwyddiad ar gyfer plant 3-8 oed yw hwn.
Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw.
---------------------------------------------
Tocynnau: £5 [+ ffioedd Eventbrite] i’r teulu cyfan.
Mae ein digwyddiadau ar-lein yn gwerthu’n gyflym – felly cyntaf i’r felin!
Am fanylion pellach ac i archebu tocynnau:
https://www.eventbrite.co.uk/e/sion-corn-ai-ffrindiau-gartref-father-christmas-and-friends-at-home-tickets-182812455977?aff=Ysgolion
Bwydlen cinio Wythnos 1/11/21:
Dydd Llun
Bolognes Pasta Bara garlleg llysiau
Bisged ceirch Llaeth
Dydd Mawrth
Eog, Tatw llysiau
Sbwng siocled Saws gwyn
Dydd Mercher
Cinio rhost porc
Sgon afal cwstard
Dydd Iau
Stroganoff Cyw Iar reis bara Naan llysiau
Hufen ia, ffrwyth
Dydd Gwener
Byrgyr sglodion ffa pob
Iogwrt
Fe fydd y neges nesaf o`r ysgol ar 7fed o Dachwedd. Fe fydd pabis coch ar werth yn yr ysgol ar ol hanner tymor.
Mwynhewch yr wythnos a byddwn yn dychwelyd ar ddydd Llun, 1af o Dachwedd.
Cofion cynnes,
Miss M. Lewis
Pennaeth