Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Covid-19 – Achosion positif o covid-19 - ni ddylai disgyblion sydd â symptomau covid-19 fynychu’r ysgol. Mi fydd angen parhau i hunan ynysu am 5 diwrnod
a chael 2 brawf LFD negyddol cyn dychwelyd.
- Cyfnodau mamolaeth - Fe fydd Mrs Delyth James yn gorffen yr wythnos yma a Ms Lowri Waters yn dychwelyd o`i chyfnod mamolaeth; rydym yn hynod o ddiolchgar iddi
am ei holl waith a chefnogaeth dros y cyfnod yma. Dymunwn yn dda iddi yn y dyfodol.
Hefyd croesawn Miss Rebecca Williams yn ôl o`i chyfnod mamolaeth ac fe fydd Miss William yn dysgu dosbarth y Ffynnon. Bydd Miss Carruthers yn aros ac yn cefnogi grwpiau o ddisgyblion.
Bydd Mrs Hughes yn parhau i ddysgu blwyddyn 5 a 6.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 23.05.22 |
|
Dydd Llun |
Pysgod tatw ffa pob llysiau Eirinen wlanog ac hufen ia |
Dydd Mawrth |
Peli cig saws tomato pasta bara garlleg llysiau Sgonen afal a chwstard |
Dydd Mercher |
Cyw iâr stwffin tatw llysiau grefi Cacen siocled creisionllyd Sudd |
Dydd Iau |
Pitsa Tatw salsa llysiau Myffin siocled Llaeth |
Dydd Gwener |
Grilen cyw iâr sglodion moron wedi`i gratio, salad Jeli ffrwythau ac hufen |
- Mabolgampau ysgol – Gorffennaf 8fed - Mabolgampau Ysgol a Raffl Hamperi Gwych os yw`r tywydd yn dderbyniol.
- Gwyliau Hanner Tymor – bydd yr ysgol ar gau am 3.30yp ar ddydd Gwener, ac yn ail-agor ar ddydd Llun, Mehefin 6ed.
- Diwrnod hyfforddiant mewn swydd – bydd yr ysgol ar gau ar 4ydd o Orffennaf.
Cofion cynnes,
M. Lewis
Pennaeth