Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
Hoffwn eich hysbysu na fyddwn yn cymryd tymheredd y disgyblion cyn mynd i mewn i`r ysgol o ddydd Llun ymlaen. Byddwn yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn anfon plant adref os byddant yn dangos symptomau. Ni ddylai staff a dysgwyr fynychu'r ysgol os oes ganddynt unrhyw symptomau COVID-19/amrywiolyn Omicron.
- Urdd Gobaith Cymru / dathlu canmlwyddiant yr Urdd: Dydd Mawrth 25ain o Ionawr – Fel rhan o’r dathlu gwahoddir i`r disgyblion i wisgo ddillad coch, gwyn, gwyrdd ar ddydd Mawrth 25ain o Ionawr.
Cynigir clwb ar ôl ysgol rhwng 3.30 a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau am £8 y diwrnod.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 24.1.22 |
|
Dydd Llun
|
Peli biff pasta saws tomato llysiau Rolyn hufan ia |
Dydd Mawrth
|
Grilen cyw iâr, waffls, ffa pob, llysiau Cacen Het |
Dydd Mercher |
Cinio rhost Cyw iar Teisen frau llaeth ffrwyth |
Dydd Iau |
Cawl rolyn Crymbl a chwstard |
Dydd Gwener |
Pysgod, sglodion, llysiau, salad Cacen siocled a saws gwyn |
Cofion cynnes,
M. Lewis