Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,

Yn anffodus, rwy'n gorfod dechrau fy neges atoch am y parcio ym maes parcio'r ysgol ar ddiwedd y dydd. Mae llawer o ffactorau yn gwneud ar ddiwedd y dydd yn anodd ac yn beryglus; mae ardal y maes parcio yn brysur iawn oherwydd y nifer cynyddol o ddisgyblion yn yr ysgol, ond mae'n rhaid i ni gydweithio er mwyn blaenoriaethu diogelwch pawb.

Ni allwn gael ceir a cherddwyr sy'n symud yn yr un ardal sef y maes parcio. Mae'r trefniadau presennol yn beryglus gyda disgyblion a rhieni yn cerdded i/o gerbydau yn ogystal â'r angen am fysiau mini / tacsi i godi disgyblion, ac ystyriaeth i ddefnyddwyr eraill ar y brif ffordd.

Mae'r ysgol wedi bod mewn trafodaethau cyson gydag adrannau perthnasol o fewn yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys tîm Iechyd a Diogelwch Ceredigion i drafod opsiynau y gellir eu gweithredu i wneud ardal y maes parcio'n fwy diogel.  Mae'r ysgol a'r corff llywodraethu yn gweithio'n galed iawn i geisio dod o hyd i atebion tymor hir.

O ddydd Llun 27ain o Fedi, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddilyn y trefniadau diwedd dydd a nodir isod. Bydd aelod o staff yn y giât.

a) Bydd y brif giât ar agor tra bydd rhieni / gwarcheidwaid yn cyrraedd i gasglu plant o Ddosbarth y Bont Mrs James / Miss Carruthers yn unig (h.y. plant heb frodyr a chwiorydd) am 3.10pm; bydd staff yn dod a`r plant lawr i`r maes parcio; unwaith y bydd pob disgybl yn eu ceir yn ddiogel - gall y ceir hyn adael y maes parcio.

b) Bydd y brif giât ar agor i`r gweddill o rieni gyrraedd a pharcio erbyn 3.15pm - plîs peidiwch gyrraedd cyn 3.15;

c) Yna bydd y brif giât ar gau i bob rhiant/gwarcheidwad gasglu plant o bob dosbarth arall;

d) Bydd y brif giât yn ailagor unwaith y bydd pob disgybl yn ddiogel yn eu ceir, ceir i adael mewn modd diogel am 3.30pm

e) Bydd bws / tacsi yn parcio yn yr encilfa, bydd staff yn cerdded y plant i lawr i'r bws/ tacsi.

Rhaid i blant gael eu goruchwylio'n agos gan rieni/warcheidwaid bob amser ac ni ddylai redeg o amgylch y ceir yn y maes parcio.

  • Newyddion hapus! Llongyfarchiadau mawr i Miss Rebecca Williams a Dorian Jones am gael babi bach, Tomi Jac Jones a oedd yn 9.4lb! Dymunwn pob bendith, iechyd a hapusrwydd i'r teulu!
  • Fe wnaeth Tara o Sustrans fwynhau rhoi gwersi sgwteri wythnos ddiwethaf a dywedodd mor argraffedig gyda’r brwdfrydedd a chwrteisi'r disgyblion. Da iawn i bob un o`n disgyblion.
  • Os yw eich plentyn eisiau ymuno mewn unrhyw weithgaredd a drefnir gan yr Urdd yna mae’n rhaid talu aelodaeth yn flynyddol. Mae’r Urdd yn dathlu 100 mlynedd eleni.
    Cost aelodaeth am eleni sef Medi 2021 hyd Haf 2022 yw £10.00 yr un a £1 y pen i blant sy’n derbyn cinio Ysgol am ddim. Mae aelodaeth teulu o 3 o blant neu fwy yn £25.
    Gallwch ymaelodi drwy Y PORTH, system ar-lein newydd Yr Urdd Ymuno | Urdd Gobaith Cymru https://www.urdd.cymru/cy/ymuno/.

                                      UrddYmuno

 

Bwydlen cinio ar wythnos 27/9/21:

 

Dydd Llun

Pitsa pasta llysiau

Myffin Llaeth

 

Dydd Mawrth

Peli biff Pasta llysiau

Sgon afal cwstard

      

Dydd Mercher

Cinio cyw iar

Cacen siocled creision Sudd ffrwythau

 

Dydd Iau

Pysgod tatw salad

Hufen iâ ffrwythau

 

Dydd Gwener

Cyw iâr wedi`i lapio

Jeli ffrwythau

 

Yn gywir,

Miss M. Lewis     Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Pennaeth