Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- PWYSIG - Ni fydd gweithdrefnau Covid yn newid mewn ysgolion hyd nes wedi gwyliau'r Pasg. Mae staff yn parhau gyda'r profion LFD ddwywaith yr wythnos tan wyliau'r Pasg. Rydyn ni'n disgwyl gwybodaeth bellach gan y Llywodraeth o ran y sefyllfa wedi'r Pasg. Er bod y gofyn cyfreithiol i hunanynysu yn darfod ddiwedd y mis, byddwn yn gwerthfawrogi bod plant sydd yn profi'n bositif i Covid yn aros adre nes eu bod yn cael prawf negyddol.
- Garddio Dydd Gwener, 01.04.22 – gwahoddir i`r plant i ddod â dillad ac esgidiau addas / welis i arddio yn yr Ysgol; (ymarfer corf fel arfer)
- Gwyliau’r Pasg – mi fydd yr ysgol yn cau ar gyfer gwyliau’r Pasg ar ddydd Gwener, Ebrill 8fed ac yn ail agor ar ddydd Llun, Ebrill 25ain. Fe fydd hyfforddiant mewn swydd ar ddydd Gwener 6ed o Fai ac bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion.
- Blwyddyn 6 trafnidiaeth - Er mwyn gwneud cais am gludiant ysgol i`r Ysgol Uwchradd, llenwch y ffurflen gludiant ganlynol - https://forms.office.com/r/Uv6fijbw7h?lang=cy-GBerbyn y 08/04/2022. Os oes gennych unrhyw ymholiad neu anhawster, cysylltwch â'r Uned Cludiant Corfforaethol ar 01545 570 881 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
- Cynigir clwb ar ôl ysgol rhwng 3.30 a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau am £8 y diwrnod.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 28.3.22 |
|
Dydd Llun |
Pastishio Cwci |
Dydd Mawrth |
Sbageti cyw iar Cacen siocled crenshlyd |
Dydd Mercher |
Cinio selsig Pwdin reis |
Dydd Iau |
Pysgod tatw ffa pob Cacen a chwstard |
Dydd Gwener |
Pitsa sglodion Salad ffrwythau |
Cofion cynnes,
M. Lewis
Pennaeth