Dewiswch eich iaith

Iaith / Language

Annwyl rieni/warcheidwaid, staff a disgyblion,

Yn anffodus, rwy'n gorfod ysgrifennu atoch eto am y parcio ym maes parcio'r ysgol ar ddiwedd y dydd. Mae llawer o ffactorau yn gwneud ar ddiwedd y dydd yn anodd ac yn beryglus ond mae rhai`n gyrru`n anghyfrifol; mae ardal y maes parcio yn brysur iawn oherwydd y nifer cynyddol o ddisgyblion yn yr ysgol, ond mae'n rhaid i ni gydweithio er mwyn blaenoriaethu diogelwch pawb.

Ni allwn gael ceir a cherddwyr sy'n symud yn yr un ardal.

Mae'r ysgol yn parhau i fod mewn trafodaethau cyson gydag adrannau perthnasol o fewn yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys tîm Iechyd a Diogelwch Ceredigion i drafod opsiynau y gellir eu gweithredu i wneud ardal y maes parcio'n fwy diogel.  

Noder: trefniadau diwedd dydd a nodir isod: 

a)           Bydd y brif giât ar agor tra bydd rhieni / gwarcheidwaid yn cyrraedd i gasglu plant o Ddosbarth y Bont Mrs James / Miss Carruthers yn unig (h.y. plant heb frodyr a chwiorydd) am 3.10pm; unwaith y bydd pob disgybl yn eu ceir yn ddiogel - gall y ceir hyn adael y maes parcio.

b)           Bydd y brif giât ar agor i rieni gyrraedd a pharcio erbyn 3.15pm - plîs peidiwch gyrraedd cyn 3.15;

c)           Yna bydd y brif giât ar gau i bob rhiant/gwarcheidwad gasglu plant o bob dosbarth arall;

d)           Bydd y brif giât yn ailagor unwaith y bydd pob disgybl yn ddiogel yn eu ceir, ceir i adael mewn modd diogel am 3.30pm

e)           Bydd bws / tacsi yn parcio yn yr encilfa, bydd staff yn cerdded y plant i lawr i'r bws/ tacsi.

Ni ddylai unrhyw parcio ar yr heol tuag at Llechryd.

Rhaid i blant gael eu goruchwylio'n agos gan rieni/warcheidwaid bob amser ac NI ddylai redeg o amgylch y ceir yn y maes parcio. Bydd yr ysgol yn sicrhau bod pob dosbarth i lawr yn y maes parcio ar yr adegau cywir.

Yn gywir,

Miss M. Lewis     Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Pennaeth