Annwyl riant/Warcheidwad,

 

Newidiadau i olrhain cysylltiadau a hunanynysu o fis Medi hwn.

Rwy’n gobeithio eich bod chi a’ch plentyn wedi mwynhau gwyliau’r haf.

Wrth i ni ddychwelyd i’r ysgol, mae rhai newidiadau yn eu lle pan fydd rhywun yn profi’n bositif am COVID-19. Mae’r newidiadau yma yn bosibl oherwydd y rhaglen frechu a'r gostyngiad sylweddol yn y nifer sy'n mynd i'r ysbyty ac yn dioddef salwch difrifol oherwydd COVID-19 dros y misoedd diwethaf.

Os yw'ch plentyn yn profi'n bositif am COVID-19 gan ddefnyddio prawf PCR, bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu y GIG yn cysylltu gyda chi, gan ddefnyddio'r manylion a ddarparwyd pan archebwyd y prawf PCR. Byddant yn gofyn cwestiynau sydd wedi'u cynllunio i adnabod y rheini sydd wedi bod mewn cyswllt agos gyda’ch plentyn yn ddiweddar yn ogystal â manylion cyswllt eu rhiant/gwarcheidwad os ydynt ar gael. Yna bydd Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â'r cysylltiadau agos hyn i ddarparu cyfarwyddiadau neu gyngor.

Nid oes rhaid i’r rheini sydd o dan 18 oed neu sydd wedi'u brechu'n llawn hunanynysu os ydyn nhw yn cael eu nodi fel cysylltiadau agos. Ond fe fydd Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu gyda nhw i roi gwybod eu bod wedi bod mewn cyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif. Byddant hefyd yn cael cynnig dau brawf PCR ac yn cael gwybodaeth a chyngor ar sut i leihau'r risg o basio’r feirws i rywun arall. Os yw’ch plentyn yn cael ei nodi fel cyswllt agos, mae dal modd iddyn nhw fynychu'r ysgol oni bai eu bod yn datblygu symptomau neu'n cael cyngor penodol gan Profi, Olrhain, Diogelu i beidio mynd i’r ysgol. Parhewch i roi gwybod i ni os yw eich plentyn yn profi'n bositif os gwelwch yn dda.

Os yw plentyn yn profi'n bositif, dim ond nifer fach o ddisgyblion eraill yn y dosbarth bydd yn cael eu nodi fel cysylltiadau agos. Ond os oes patrwm o achosion efallai bydd Profi, Olrhain, Diogelu yn gofyn i ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y sefyllfa a'ch atgoffa o gamau allweddol, gan gynnwys eich cynghori i fod yn wyliadwrus am symptomau newydd y gallai eich plentyn eu datblygu, ac i gadw draw oddi wrth deulu a ffrindiau bregus yn y tymor byr.

Ry’n ni yn disgwyl bydd achosion o COVID-19 ar draws ein cymuned dros yr wythnosau nesaf, ond nid yw hyn yn golygu bod COVID-19 yn lledu yn yr ysgol. Parhewch i fod yn wyliadwrus am symptomau. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, archebwch brawf PCR ar gyfer eich plentyn drwy ymweld â www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119.

Dylai unrhyw un sydd â symptomau - peswch parhaus newydd, twymyn neu dymheredd uchel, neu colli synnwyr blasu neu arogli, neu wedi sylwi ar newid ynddynt – hynanynysu nes bod canlyniad y prawf wedi eich cyrraedd. Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau hunanynysu yn https://llyw.cymru/canllawiau-hunanynysu.

Rydyn ni yn gwybod pa mor anodd mae’r 18 mis diwethaf wedi bod a'r hyn mae pob teulu wedi aberthu. Diolch i chi am bopeth rydych chi wedi'i wneud i gefnogi'ch plentyn a'n hysgol.

 

Cofion cynnes,

M. Lewis

Pennaeth