Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
Blwyddyn newydd dda!
Bydd Ysgol Cenarth ar agor i bob dosbarth ar ddydd Llun 10fed o Ionawr.
Mae`r trefniadau gollwng a chasglu yn y bore a’r prynhawn yn parhau fel a ganlyn:
- Dosbarth y Ffrydiau / Meithrin (Mrs Howells) am 8.55yb a gadael 12:00yp os ydyn yn rhan amser; a 3.10yp os ydyn yn llawn amser.
- Dosbarth y Bont (Mrs James/Miss Caruthers) 8.50yb a gadael 3.15.
- Dosbarth y Ffynnon (Miss Harris) 8.45yb ac yn gadael am 3.30.
- Dosbarth y Berllan (Mrs Hughes) yn cyrraedd 8.45 ac yn gadael am 3.30.
Hwb Gofal Plant – Cynigir y darpariaeth hyn ar gyfer argyfwng yn unig am ddydd Gwener 7fed o Ionawr i weithwyr allweddol yn unig – rhowch wybod os oes angen.
Cynigir clwb ar ôl ysgol rhwng 3.30 a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau yn dechrau ar 10fed o Ionawr am £8 y diwrnod; cofrestrwch drwy anfon enw eich plentyn / plant ataf.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 10.1.22 |
|
Dydd Llun |
Tica cyw iâr llysiau reis Bara Naan Ffrwythau cymysg ac hufen ia |
Dydd Mawrth |
Pysgod Ffa Pob Tatw Cacen siocled Saws gwyn Bolgnes a |
Dydd Mercher |
Cinio rhost porc Sgonen afal a chwstard |
Dydd Iau |
spageti bara garlleg llysiau Bisgedi ceirch a llaeth |
Dydd Gwener |
Byrgyr biff sglodion Ffa pob Iogwrt |
Bydd eisiau dychwelyd y cyfrifiaduron ar ddydd Llun os gwelwch yn dda.
Fe fydd sesiynau byw ar Teams ar ddydd Gwener 7fed o Ionawr i bob dosbarth; bydd amserau am y sesiynau yfory ar Teams.
Cofion cynnes,
M. Lewis